Ryan Giggs
Mae Ryan Giggs wedi cael ei benodi’n is-reolwr yn Manchester United ar ôl cadarnhad heddiw mai Louis Van Gaal fydd yn cymryd yr awenau yn y clwb.
Cadarnhaodd y Cymro y bydd hefyd yn rhoi’r gorau i chwarae ar ôl 24 mlynedd gyda’r clwb er mwyn canolbwyntio ar ei swydd newydd.
Bu sôn ers wythnosau mai Van Gaal oedd y ffefryn ar gyfer y swydd, ar ôl i David Moyes gael y sac ym mis Ebrill yn dilyn tymor siomedig tu hwnt.
Ac mewn datganiad ar eu gwefan prynhawn yma fe gadarnhaodd Man United mai Van Gaal a Giggs fydd yn gweithio gyda’i gilydd i arwain y tîm y tymor nesaf.
“Gyda Louis van Gaal rydym wedi sicrhau gwasanaeth un o’r rheolwyr disgleiriaf yn y gêm heddiw,” meddai prif weithredwr y clwb, Ed Woodward.
“Mae wedi ennill llawer o bethau yn ei yrfa hyd yn hyn ac mae Old Trafford yn rhoi llwyfan teilwng iddo ysgrifennu penodau newydd yn hanes Manchester United.”
Giggs yn ymddeol
Mewn llythyr agored ar wefan y clwb fe gadarnhaodd Giggs fod ei swydd newydd fel is-reolwr yn golygu’i fod yn rhoi’r gorau i chwarae ar ôl gyrfa hir a llwyddiannus gyda Man United.
Yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb fe ennillodd 34 o dlysau, gan gynnwys yr Uwch Gynghrair 13 o weithiau a Chynghrair y Pencampwyr ddwywaith, a chael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yr Uwch Gynghrair yn 2009.
Yn ei lythyr i’r cefnogwyr dywedodd Giggs ei fod yn “falch ac yn ffodus” o fod wedi chwarae 963 o weithiau dros ei glwb a 64 gwaith dros Gymru, a’i fod yn ffyddiog y bydd y clwb yn ffynnu o dan arweiniaeth Louis van Gaal.
Tair blynedd
Mae van Gaal wedi arwyddo cytundeb o dair blynedd wrth y llyw, gyda Giggs wrth ei ochr ar ôl fel is-reolwr.
Cafodd Giggs ei benodi’n rheolwr dros dro am bedair gêm olaf y tymor, gyda rhai’n galw ar y clwb i roi’r swydd yn barhaol i’r Cymro.
Mae Man United wedi bod cynnal trafodaethau gyda van Gaal yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda Giggs yn hedfan i’r Iseldiroedd i gyfarfod Van Gaal yn ddiweddar.
Bydd y rheolwr newydd yn dechrau yn ei swydd gyda Man United ar ôl diwedd ymgyrch yr Iseldiroedd, ei dîm presennol, yng Nghwpan y Byd.
Does dim disgwyl i Van Gaal felly gymryd yr awenau tan ddechrau mis Gorffennaf, ac erbyn hynny fe fydd y clwb yn gobeithio bod wedi prynu’r cefnwr chwith ifanc Luke Shaw o Southampton.
Cyn hynny fe fu Van Gaal yn rheolwr ar nifer o glybiau mwyaf Ewrop gan gynnwys Ajax, Bayern Munich a Barcelona, ac mae ganddo enw am fod yn llym â’i chwaraewyr.
Fe awgrymodd y gŵr 62 oed yr wythnos hon y gallai enwi Robin van Persie, yr ymosodwr sydd hefyd gydag ef yng ngharfan yr Iseldiroedd, yn gapten ar Man United petai yn y swydd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ar Twitter: “Byth yn meddwl byddai’r dydd yma’n dod! Diolch Giggsy am bopeth gwnest ti dros chwaraeon Cymru – mae dy gampau yn ysbrydoliaeth.”