Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi Mark Hammett fel cyfarwyddwr rygbi newydd y rhanbarth.
Bydd cyn chwaraewr y Crysau Duon, sydd wedi arwyddo cytundeb tair blynedd, yn ymuno a’r Gleision yn dilyn cwblhau tymor y Super 15 gyda’r Hurricanes.
Bydd Mark Hammett, 41, yn arwain y tîm hyfforddi newydd ym Mharc yr Arfau Caerdydd gyda Dale McIntosh a Paul John.
Mae’r cyn fachwr wedi ennill clod am fod yn un o hyfforddwyr mwyaf cyffrous a blaenllaw’r Super 15 yn dilyn cyfnodau gyda’r Crusaders a’r Hurricanes .
Cymerodd Hammett yr awenau fel prif hyfforddwr yr Hurricanes, sy’n chwarae yn Wellington, yn 2011 ac mae o ar hyn o bryd yn arwain y tîm wrth iddynt gystadlu am le yn y gemau ail gyfle.
Dywedodd Richard Holland , Prif Weithredwr Gleision Caerdydd: “Fe wnaethon ni chwilio dros y byd, gyda chymorth hyfforddwr Cymru, Warren Gatland a Gareth Edwards, ac rydym yn falch iawn y bydd Mark Hammett yn dechrau yn ei rôl fel cyfarwyddwr rygbi .
“Mae Dale McIntosh a Paul John wedi gwneud gwaith gwych dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac rwy’n gwybod eu bod nhw’n edrych ymlaen at weithio gyda Mark.
“Nawr, o dan arweiniad Mark Hammett, rydym yn credu y gall y Gleision ddechrau edrych ymlaen, unwaith eto, at ddyfodol disglair.”