Tîm pêl-droed Ysgol Dewi Sant yn eu cit Abertawe
Yn anffodus fe ddaeth rhediad gwych Tîm yr Wythnos o bum buddugoliaeth yn olynol i ben y penwythnos diwethaf, ar ôl i fechgyn Chweched Ysgol Glan Glwyd golli ar giciau o’r smotyn yn ffeinal ysgolion Cymru.

Parhau ar yr un thema rydan ni’r wythnos hon – ond gyda chanlyniad mwy ffodus gobeithio  – wrth i ni ddilyn tîm ysgol arall, Blwyddyn 6 y tro hwn, mewn cystadleuaeth go arbennig.

Ysgol Dewi Sant, Llanelli, yw Tîm yr Wythnos golwg360 yr wythnos hon, ac maen nhw wedi cael eu dewis i gynrychioli CPD Abertawe mewn twrnament ysgolion cynradd ar gyfer holl dimau Uwch Gynghrair Lloegr.

Daeth Dewi Sant i’r brig mewn cystadleuaeth a drefnodd Abertawe rhwng ysgolion eu hardal eang nhw, gyda dwy ysgol yr un o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Aman Nedd, ac Abertawe’n cystadlu.

Fe lwyddon nhw i drechu Ysgol Rhosafan o 6-2 yn y rownd derfynol.

Dewi Sant oedd un o’r ddau o sir Gaerfyrddin ar ôl iddyn nhw ennill twrnament Urdd flaenorol, ac fe fyddan nhw nawr yn teithio i Fanceinion ddydd Mawrth i gystadlu yn erbyn yr 19 ysgol arall fydd yn cynrychioli clybiau Uwch Gynghrair.

Ac mae eu hathro a’u hyfforddwr Steffan Hughes yn dweud fod y bechgyn o Flwyddyn 6 yn edrych ymlaen yn fawr at y profiad o gynrychioli Abertawe.

“Maen nhw’n griw sydd wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd ers blynyddoedd,” meddai Steffan Hughes.

“Maen nhw’n griw o ffrindiau arbennig o dda, ac yn dalentog iawn hefyd. Mae hynny’n hynod o bwysig, eu bod nhw’n ennill gyda’i gilydd.”

Gwyliwch glip fideo o Steffan Hughes yn cyflwyno’r tîm (lluniau Tinopolis):

Gyda nifer o’r bechgyn yn chwarae dros ysgolion Sir Gaerfyrddin, dau yng nghanolfan datblygu Caerdydd ac un yn academi Abertawe, mae’n amlwg nad oes diffyg talent yn y garfan.

Maen nhw hefyd yn griw o fechgyn “sydd eisiau troi eu llaw at rywbeth”, yn ôl eu hathro, gyda phencampwyr jiwdo, criced a nofio yn eu mysg hefyd yn ogystal â phêl-droedwyr a chwaraewyr rygbi o fri.

Bydd y tîm yn cael gwisgo cit Abertawe arbennig ar gyfer y twrnament yn ogystal â theithio ar fws y tîm cyntaf i Fanceinion ac aros mewn gwesty yno ar y nos Lun, ac fe fydd tua 30 o rieni yno i’w cefnogi hefyd.

Mae pedwar grŵp o bum tîm yn y gystadleuaeth, gydag ysgolion West Brom, Arsenal, Newcastle a Crystal Palace yn ymuno ag Ysgol Dewi Sant yng Ngrŵp C.

Yr ysgolion fydd yn eu hwynebu bydd ysgolion cynradd Pitmaston, Oakmere, Redesdale a Woodcote, wrth iddyn nhw geisio cipio’r tlws oddi ar Ysgol Gatholig Corpus Christi o Fulham sydd wedi ennill am y ddwy flynedd diwethaf.

Ysgol Llandaf City Church fydd yn cynrychioli CPD Dinas Caerdydd yn y twrnament – ond gan eu bod nhw yng Ngrŵp B fe fydd yn rhaid iddyn nhw a Dewi Sant fynd drwyddo i’r rowndiau terfynol os ydyn nhw am wynebi’i gilydd mewn darbi Gymreig.

Bydd y Twrnament Ysgolion yr Uwch Gynghrair yn digwydd yn Stadiwm Etihad, Manceinion, ar 20 Mai.

Tîm Ysgol Dewi Sant: Rhys Phillips, Ioan Phillips, Finlay Cooke, Jac Rees, Dylan Williams, Thomas Elliot, Joni Hartson, Ellis Dickeson