Tommie Collins yn cyfweld y Cymro Owain Doull
Bu Tommie Collins, ar daith rownd Prydain wythnos diwethaf, yn dilyn a gohebu ar ras feics y Tour of Britain.

Dydd Llun – Knowsley

Am beth mae Parc  Knowsley ger  Lerpwl yn enwog? Anifeilaidd !  Rwy’n cofio ymweld  â’r parc pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, mae’n chwip o ddiwrnod i’r teulu hefyd.

Heddiw, roeddwn  yn ôl ym Mharc Saffari Knowsley, i ohebu ar ddiwedd  ail gymal y Tour of Britain.

Nid rhyw ystafell high tech oedd gan y wasg, doedd dim brechdanau a prawns ar gael, ie – ystafell digon cyffredinol, tipyn gwahanol i’r byd pêl droed.  Roedd swyddogion y Tour yn gyfeillgar, ac roedd ymdrech lew gan Peter Hodges (swyddog y cyfryngau) i ynganu Golwg!

Roeddwn ymysg gohebwyr a ffotograffydd enwog y byd seiclo.  Richard Moore awdur In search of Robert Millar, Berni Gallacher, Rob Lampard, Matt Slater BBC a Peter Slater 5live.  Pawb yn gyfeillgar, ond yn amlwg yn adnabod ei gilydd, oeddwn yn dipyn o ddieithryn!

I wylio diwedd y ras oeddwn yn cael sefyll mewn ardal arbennig i’r wasg.  Mae’r ffotograffydd ar y ffordd yn wynebu’r seiclwyr, ger y podiwm mae’r wasg,  a gwylio diwedd y cymal ar sgrin deledu enfawr, mae sylwebydd yn herio’r dorf i greu sŵn.  Yndi, mae’n gyffrous.  Ar ôl i’r ras orffen ,mae’r enillwyr pob  crys yn cael eu gwobr, wedyn y cyfweliadau gyda Ned Boulting ITV yn cael blaenoriaeth, ond nhw sydd ar hawliau ynte!

Roedd rhaid chwerthin ar ôl cyfweliad Cavendish ddydd Mercher, pan oedd y wasg yn gwthio meicroffonau a ffonau symudol i wyneb Cav, roedden nhw fel anifeiliaid yn aros i gael eu bwydo.

Dydd Mercher- Blackpool

Mae llawlyfr y ras yn fanwl iawn. Digonedd o wybodaeth ac un o’r pethau mwyaf diddorol, yw rhestr  y gwobrau arian maen nhw’n cael am ennill.  Rhestrir y rhain mewn Ewros:

€ 3060 am ennill cymal

€ 1548 am ddod yn ail

€ 760 trydydd

A degfed i ugeinfed pob cymal yn cael  € 76 –  swm digon tila am seiclo’n galed am bedair awr!

Tasa rhywun am fynd i wylio cymal, mae’n brofiad da, oherwydd cewch gymysgu  â’r seiclwyr â’r criw, (heblaw un tîm) mae gwahanol fyd yn bodoli yn y byd seiclo hefyd.

Mi deithiais i Flackpool o Newcastle bore dydd Mercher, ac wrth groesi ‘r Penwynni (y Pennines) roedd y cwmwl du yn y pellter yn peri pryder i mi. Ac roeddwn yn iawn, wrth gyrraedd dinas y meddwyn, roedd gwynt a glaw yn llenwi’r awyr.

Bu pryder ymysg y trefnwyr gan y bu’n rhaid canslo’r cymal flwyddyn yn ôl. Ond, erbyn y prynhawn roedd yr haul yn gwenu ar y promenâd.  Enillodd Cav ar ôl i drên sky reoli diwedd y cymal – oedd, roedd yn gymal caled, gyda phyllau dŵr yn amlwg ar y ffordd.

Wrth deithio drwy Blackpool, meddyliais  pa mor lwcus ydyw i’n byw ym Mhorthmadog. Blackpool – na, nefyr, byth!   Siwrne i Stoke oedd ar yr agenda, yn barod ar gyfer cymal 5.


Y gŵr o Curaco - Marc De Maar
Dydd Iau – Stoke – on – Trent

Rydym yn cael yn difetha  gan harddwch Cymru.  Ond i raddau, mae gerddi Trentham mewn lleoliad godidog.  Tebyg i  Bortmeirion, ac o’n yn teimlo’n agos i adre, gydag  arwyddion Portmeirion ym mhob man, cartre’ siopa Portmeirion yw Stoke.

Rwy’n deall bod Sky yn hybu seiclo, ond mae’r hyn dwi ‘di weld yr wythnos hon, yn drist iawn.  I fod yn gwbl onest,  mae fel syrcas gydag ardal arbennig yn disgwyl eu bws  – bws iddyn nhw’n unig cofiwch.   Does dim golwg o’r seiclwyr tan ei bod yn amser i gofrestru.   Pam nad oes tipyn o gysylltiadau cyhoeddus a rhoi cofrodd i’r cefnogwyr neu arwyddo llofnod neu ddau?   Na, aros yn y bws maen nhw, ac mae hyn yn fy atgoffa  o’r byd bêl droed modern – bechod mawr.

Roedd llawer o’r newyddiadurwyr profiadol yn barnu’r tîm, am eu tactegau a’u hagwedd. Cau fy ngheg o’n i – dw i’n dysgu!

Roedd yn gymal eitha’ cyffrous.  Yr enwog Ivan Basso yn creu hafoc, ond dim nerth ar y diwedd, a Marc De Maar o’r Iseldiroedd yn cipio’r cymal.  Arhoswch, nid yr Iseldiroedd mae’n cynrychioli – neb llai na Curaco, oedd yn gyfweliad difyr iawn, ni feddyliais erioed, bydd seiclwr o Curaco yn ennill cymal mewn ras fawr!

Dydd Gwener – Trallwng

Siwrne o awr a hanner, ar ffordd mor wael â’r A470 o Stoke i Gastell Powys ger Trallwng!  Roedd llawer mwy o geir na llynedd.  Lleoliad hardd arall i ddechrau ras feics.

Roeddwn wedi trefnu, i gyfweld â’r seiclwr ifanc o Lanisien Owain Doull. Hawdd i gynnal cyfweliad, pan mae pawb wrth fws tîm Sky yn aros am gipolwg o’i harwyr.  Siom a gafwyd, roedd gan fod Brad ‘y mod’ â stumog ddrwg  – o ddifri?   Beth bynnag nid oedd yn arwyddo ar y podiwm y bore hwn.

Tybed a’i sefyllfa’i ffrind Cav yw’r broblem yn hytrach na stumog wael?   Mae’r stori’n dew na fydd Cav gyda Sky  yn 2013.

Pan oedd tîm Sky yn cuddio tu ôl i’w ffenestri du, mi gefais sgwrs â John Herety rheolwr tîm Rapha Condor.   Gŵr bonheddig ydy John –  mi wnes gwrdd ag o flwyddyn yn ôl, ac roedd yn fy nghofio. Digon i ddweud, a llawn gwybodaeth a pharch.  Nid yw’n genfigennus o gyllid Sky, ond wneud y gorau mae’n gallu.

Cred mai na ‘the have and the have nots yn y byd seiclo’.   Mae cyllid tîm sky yn hurt i gymharu â gweddill  y timau. Bu llawer o’r timau â cherbyd gwersylla, nid bws â phob cyfleustra modern.

Roedd yn gyfnod difyr yn dilyn y ras, diddorol dros ben.  Rhaid diolch i Golwg360 am drefnu’r achrediad, ac  i bawb y cwrddais am fod  mor gyfeillgar.