Mae teuluoedd y 96 o bobl a gafodd eu lladd yn nhrychineb Hillsborough wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu gofyn am gwestau o’r newydd.

Dywedodd Trevor Hicks, sy’n llefarydd ar ran y grŵp, eu bod nhw hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn yr heddlu.

Yr wythnos diwethaf, cafodd adroddiad ei gyhoeddi a oedd yn dweud nad oedd y cefnogwyr yn gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd ar Ebrill 15, 1989, a bod yr heddlu wedi addasu a dileu rhai o ddatganiadau’r cefnogwyr.

Dywed y grŵp y byddan nhw’n dwyn pwysau ar yr awdurdodau i gynnal y cwestau newydd yn Lerpwl yn hytrach nag yn Sheffield.

Cafodd 95 eu gwasgu i farwolaeth yn stadiwm Sheffield Wednesday yn ystod gêm gynderfynol Cwpan FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.

Bu farw dyn arall o’i anafiadau ym 1993 ar ôl bod mewn coma.

Dywedodd y cwest gwreiddiol bod y 96 wedi marw o fewn 15 munud ar ôl i’r gêm ddechrau ond yn ol yr adroddiad gallai bywydau 41 o’r 96 fod wedi cael eu hachub pe bai’r gwasanaethau brys wedi ymateb yn well. Daeth i’r amlwg hefyd fod 164 o gofnodion yr heddlu wedi eu haddasu er mwyn rhoi’r bai ar y cefnogwyr.

Mae cwyn yn erbyn Syr Norman Bettison, sydd bellach yn Brif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Swydd Efrog, yn cael ei hystyried gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Roedd Bettison yn rhan o dîm Heddlu De Swydd Efrog a ymchwiliodd i’r drychineb ar y pryd.