Bangor 4–1 Lido Afan
Profodd Bangor yn rhy gryf i Lido Afan yn Nantporth brynhawn Sadwrn wrth rwydo pedair yn erbyn yr ymwelwyr o Bort Talbot.
Rhoddodd Chris Jones Bangor ar y blaen yn gynnar gydag ergyd dda ac er i Fangor reoli gweddill yr hanner hefyd roedd Lido’n gyfartal erbyn yr egwyl diolch i Luke Borrelli.
Rhoddodd Les Davies Bangor yn ôl ar y blaen toc cyn yr awr gyda’i gôl gyntaf o’r tymor cyn i Jones sgorio ei ail o’r gêm i’w gwneud hi’n dair.
Cwblhaodd Damien Allen y sgorio gydag ergyd gadarn yn y munudau olaf yn dilyn gwaith creu yr eilydd ifanc, John Owen.
Mae’r canlyniad yn cadw Bangor ar y brig tra mae Lido yn disgyn i’r nawfed safle.
(Torf – 522)
Caerfyrddin 0–0 Y Seintiau Newydd
Methodd y Seintiau â sgorio am y drydedd gêm yn olynol wrth iddynt orfod bodloni ar bwynt yn unig yn erbyn Caerfyrddin ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn.
Fe sgoriodd y Seintiau ym mhob gêm gynghrair y tymor diwethaf a dyma’r tro cyntaf erioed iddynt fynd am dair gêm yn Uwch Gynghrair Cymru heb sgorio.
Tipyn o bluen yn het Caerfyrddin felly a phwynt haeddianol i dîm Mark Aizlewood.
Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl serch hynny wrth i’r Seintiau aros yn drydydd a Chaerfyrddin yn seithfed.
(Torf – 297)
Gap Cei Connah 1–2 Aberystwyth
Daeth rhediad da diweddar Cei Connah i ben yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn wrth i ddwy gôl gynnar sicrhau buddugoliaeth gyntaf y tymor i Aberystwyth.
Crymanodd Matty Collins yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond dau funud cyn i Jordan Follows ddyblu’r fantais o’r smotyn wedi i Glyndwr Hughes gael ei lorio yn y cwrt cosbi.
Roedd y tîm cartref yn meddwl eu bod yn ôl yn y gêm ar ddechrau’r ail hanner ond cafodd y gôl ei gwrthod oherwydd trosedd gan Ricky Evans ar y gôl-geidwad, James Wood.
Fe wnaeth Cei Connah sgorio yn y diwedd diolch i foli Jamie Petrie yn yr eiliadau olaf ond gôl gysur yn unig oedd honno.
Derbyniodd capten y tîm cartref, Craig Jones, gerdyn coch hwyr hefyd wedi iddo daro Gavin Cadwallader â’i ben.
Mae Cei Connah yn aros yn bedwerydd er gwaethaf y canlyniad ond mae Aberystwyth yn codi oddi ar waelod y tabl i’r unfed safle ar ddeg.
(Torf – 165)
Llanelli 0–3 Y Drenewydd
Parhau mae trafferthion Llanelli ar ddechrau’r tymor yn dilyn cweir gan y Drenewydd ar Stebonheath brynhawn Sadwrn.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Ian Edmunds yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner pan sgoriodd yn uniongyrchol o gic gornel. A dyblodd Nicky Ward y fantais toc wedi’r awr gyda chic rydd gelfydd o ochr y cwrt cosbi.
Collodd y Cochion eu pennau wedi hynny a bu rhaid iddynt orffen y gêm gydag wyth dyn yn dilyn tri cherdyn coch. Anfonwyd Ashley Evans o’r cae wedi iddo dderbyn ail gerdyn melyn a dilynodd Luke Bowen a Chris Venables ef i’r ystafell newid ar ôl defnyddio iaith anweddus.
Ac i rwbio’r halen yn y briw fe ychwanegodd Gareth Partridge drydedd gôl gyda foli wych yn yr eiliadau olaf.
Y Drenewydd felly yw prif symudwyr y penwythnos yn codi o’r degfed safle i chweched yn y tabl. Mae Llanelli ar y llaw arall yn disgyn i’r degfed safle gyda gwahaniaeth goliau’n unig yn eu cadw allan o safleoedd y gwymp.
(Torf – 154)
Port Talbot 4–4 Airbus
Cafwyd gêm y penwythnos yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn wrth i Bort Talbot ac Airbus rannu’r pwyntiau ac wyth gôl mewn gêm lawn cyffro.
Rhwydodd Jeff White y gôl agoriadol yn dilyn camgymeriad gan Ben Chapman yn y gôl i Airbus a sgoriodd David Brooks yr ail o’r smotyn ar ôl iddo gael ei lorio gan Ian Kearney.
Ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal erbyn yr egwyl yn dilyn goliau Wayne Riley a Glenn Rule.
Rhoddodd Brooks Bort Talbot yn ôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond ychydig funudau a barodd y fantais cyn i Ryan Wade unioni i’r gogleddwyr.
Sgoriodd White ei ail ef a phedwerydd y Gwŷr Dur i’w rhoi ar y blaen eto cyn i Airbus unioni drachefn gyda gôl i’r eilydd, Jordan Johnson, ddeg munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn cadw Port Talbot yn y pumed safle ac Airbus yn wythfed er mai dim ond un pwynt sydd yn gwahanu’r ddau dîm.
(Torf – 113)
Bala 1–2 Prestatyn
Tarodd Prestatyn yn ôl i guro’r Bala ar Faes Tegid yng ngêm fyw Sgorio brynhawn Sadwrn. Rhoddodd Lee Hunt y tîm cartref ar y blaen ond sgoriodd Andy Parkinson a Ross Stephens i gipio’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr.
(Torf – 205)