Andy Murray yn Dunblane
Cafodd y pencampwr tenis Olympaidd ac Americanaidd Andy Murray groeso gan filoedd o bobl yn ei dref enedigol yn Dunblane yn yr Alban.
Er bod y tywydd yn arw bu Murray wrthi am amser hir yn arwyddo llofnodion a cherdded trwy’r dref.
Cafodd haf llwyddianus iawn eleni. Daeth yn ail ym mhencampwriaeth Wimbledon cyn ennill medal aur yng ngemau Olympaidd Llundain ac yna ennill Pencampwriaeth Agored yr UDA yr wythnos diwethaf.
Cyn gadael yr Unol Daleithiau dywedodd Andy Murray na allai ddisgwyl i fynd adref i Dunblane a diolch i bawb yno am ei gefnogi.
“Mi fydd yn achlysur emosiynol yn bendant, ond mae’n le arbennig iawn i mi,” meddai.