Nevin Spence
Mae chwaer y chwaraewr rygbi Nevin Spence wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty yn dilyn damwain a laddodd ei dau frawd a’i thad.

Cafodd hi driniaeth am effeithiau nwyon yn Ysbyty’r Frenhines Victoria yn Belfast.

Lladdwyd y chwaraewr rygbi Nevin Spence, 22 oed, ei dad Noel, 55 oed, a’i frawd Graham, 30 oed pan syrthiodd y tri a’u chwaer Emma i mewn i danc biswail ar fferm yn Hillsborough, Swydd Down.

Mae Emma yn derbyn triniaeth am anadlu tarth o’r tanc yn ysbyty y Frenhines Victoria yn Belfast.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r fferm deuluol toc wedi chwech o’r gloch neithiwr.

Roedd y tri dyn yn anymwybodol pan gafon nhw eu tynnu o’r tanc a bu dau farw yn y fan a’r lle. Aethpwyd â’r trydydd i ysbyty cyfagos yn Lisburn ond bu yntau farw yn fuan wedyn.

Roedd Nevin Spence yn chwaraewr rygbi addawol ac eisoes yn chwarae id îm Ulster. Roedd yn rhan o garfan hyfforddi Iwerddon ar gyfer pencampwriaeth y chwe glwad llynedd. Cafodd ei enwi yn Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn seremoni wobrwyo Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Undeb Iwerddon llynedd hefyd.

Roedd yn ennill ei fywoliaeth ar y fferm deuluol ac fe gafodd ei enwi yn llysgennad Cyngor Llaeth Iwerddon yn ddiweddar.

Dywedodd llywydd Undeb Ffermwyr Ulster, Harry Sinclair, bod y newyddion wedi syfrdanu’r gymuned amaethyddol.

Mae’r ymchwiliad i beth achosodd y ddamwain eisoes ar y gweill.