Bradley Wiggins yn y Tour de France
Ychydig wythnosau ers ennill y Tour de France – y Prydeiniwr cyntaf i wneud hynny erioed – mae Bradley Wiggins wedi hawlio ail fedal aur Tîm GB yn y Gemau Olympaidd.

Bradley Wiggins yw’r Prydeiniwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau ar ôl sicrhau ei seithfed fedal Olympaidd.

Y rhwyfwr, Syr Steve Redgrave, oedd yn dal y record honno cyn hynny gyda chwe medal.

Gorffennodd Bradley Wiggins, 32, y ras 42 eiliad o flaen y beiciwr yn yr ail safle, yr Almaenwr, Tony Martin.