Tian Qing a Yunlei Zhao o Tsieina
Mae wyth chwaraewr badminton sydd wedi bod ynghanol helynt am geisio dylanwadu ar sgôr y twrnament yn y Gemau Olympaidd, wedi cael eu gwahardd.

Dywedodd Ffederaswin Badminton y Byd (BWF) bod dwy o Tsieina, pedair o dde Corea a dwy o Indonesia wedi eu gwahardd ar ôl ceisio colli pwyntiau’n fwriadol er mwyn dylanwadu ar sgôr y gem gogynderfynol yn Wembley neithiwr.

Mae’r chwaraewyr o Indonesia a Corea wedi apelio yn erbyn y penderfyniad yn dilyn gwrandawiad disgyblu bore ma. Os yw’r apeliadau’n methu yna bydd rhaid ail-drefnu’r gemau sydd i fod i ddechrau am 5pm heno.

Mae’r wyth – Wang Xiaoli a Yu Yang (Tsieina); Greysia Polii a Meiliana Jauhari (Indonesia); Jung Kyung-eun a Kim Ha-na (Corea); a Ha Jung-eun a Kim Min-jung (Corea) ­- wedi eu cyhuddo gan y BWF o “beidio â gwneud eu hymdrech orau i geisio ennill gem”.