Tom Daley a'i bartner Peter Waterfield
Mae chwaraewr o Uwchgynghrair Cymru wedi cael ei wahardd gan ei glwb heddiw ar ôl i neges gael ei yrru o’i ffôn yn sarhau’r deifiwr ifanc, Tom Daley, ar Twitter.

Fe fethodd Tom Daley, 18, a’i bartner Pete Waterfield i gipio medal ddydd Llun gan orffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth deifio gydamserol yn y Gemau Olympaidd.

Cadarnhaodd Clwb Pêl-droed Port Talbot fod ei chwaraewr canol cae, Daniel Thomas, yn rhan o ymchwiliad mewnol gan y clwb.

Yn ôl adroddiadau, cafodd neges homoffobig ei yrru at Tom Daley, 18, ar ôl iddo fethu ag ennill medal ddydd Llun.

‘Jôc’

Pwysleisiodd swyddogion CPD Port Talbot fod Daniel Thomas, 28, wedi gadael ei ffôn a bod rhywun arall wedi gyrru’r neges fel “jôc”.

“Gall Glwb Pêl-droed Port Talbot gadarnhau fod Daniel Thomas wedi’i wahardd o’r clwb hyd nes i ni orffen yr ymchwiliad mewnol,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Ar ôl siarad â’r chwaraewr dan sylw am beth amser, rydym ni o’r farn ei fod wedi gadael ei ffôn ar gamgymeriad a bod rhywun wedi gyrru ‘prank’ ffôl iawn.”

Does gan y digwyddiad ddim cysylltiad â’r digwyddiad wnaeth arwain at arestio bachgen 17 oed ddoe.

Cafodd y llanc ei arestio mewn llety yn Weymouth bore ddoe yn dilyn negeseuon maleisus gafodd eu gadael ar Twitter i Tom Daley.