Matthew Stevens yw’r unig Gymro ym Mhencampwriaeth Snwcer y Deyrnas Unedig yng Nghaerefrog erbyn hyn.
Bydd y Cymro Cymraeg o Gaerfyrddin yn herio’r Albanwr Stephen Maguire yn rownd yr wyth olaf heno (nos Wener, Rhagfyr 6).
Cyrhaeddodd e’r wyth olaf ar ôl curo’r Sais Mark Selby o chwe ffrâm i bump, ac fe allai herio naill ai Mark Allen o Ogledd Iwerddon neu’r Sais Nigel Bond pe bai’n cyrraedd y rownd gynderfynol.
Llwyddodd e i sgorio 54 yn y drydedd ffrâm a 77 yn yr wythfed cyn ennill y ffrâm olaf i gipio’r fuddugoliaeth.
Siom i Michael White
Sicrhaodd Stephen Maguire ei le yn yr wyth olaf ar ôl curo Cymro arall, Michael White o Gastell-nedd, o chwe ffrâm i bedair.
Sgoriodd y Cymro ddau rediad o fwy na chant – 104 yn yr ail ffrâm a 115 yn y bedwaredd, cyn sgorio 91 yn y chweched.
Ond enillodd yr Albanwr yr ornest gyda rhediad o 116 yn y ffrâm olaf.
Rownd yr wyth olaf:
Ding Junhui v Liang Wenbo
John Higgins v Yan Bingtao
Stephen Maguire v Matthew Stevens
Mark Allen v Nigel Bond