Cipiodd y Cymro Ryan Day dlws Pencampwriaeth Snwcer Agored Gibraltar nos Sul.

Curodd y chwaraewr 37 oed o Ben-y-bont ar Ogwr ei wrthwynebydd, Cao Yupeng o China o bedair ffrâm i ddim i ennill ail dwrnament dethol y tymor yn dilyn ei lwyddiant yn Riga fis Mehefin y llynedd.

Ar ei ffordd i’r rownd derfynol, roedd e wedi curo Fang Xiongman o China a Joe Perry o Loegr o bedair ffrâm i un, cyn curo’r Albanwr Scott Donaldson o bedair ffrâm i dair yn y rownd gynderfynol.

Sgoriodd y Cymro 58, 72 a 100 yn ystod y rownd derfynol i sicrhau’r fuddugoliaeth.