Fe fydd achos llys yn erbyn cricedwr Lloegr Ben Stokes yn dechrau yn Llys y Goron Bryste heddiw.
Mae e wedi’i gyhuddo mewn perthynas â ffrwgwd yn y ddinas fis Medi’r llynedd, ond mae e ar daith gyda’r tîm cenedlaethol ar hyn o bryd, a does dim angen iddo ymddangos yn y llys ar gyfer y gwrandawiad cyntaf.
Mae e, Ryan Ali a Ryan Hale ar fechnïaeth ar hyn o bryd, a’r tri yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Cafodd Ben Stokes ei wahardd gan Loegr yn dilyn y digwyddiad, a doedd e ddim ar gael ar gyfer Cyfres y Lludw yn Awstralia dros y gaeaf.
Roedd e’n un o griw o bobol oedd allan yn dathlu buddugoliaeth Lloegr dros India’r Gorllewin ar Fedi 24 pan gafodd ei arestio am 2.35 y bore.
Fe fu’n chwarae criced yn Seland Newydd ar ôl cael ei arestio, ac fe gafodd y gwaharddiad gan Loegr ei wyrdroi ar ôl iddo gael ei gyhuddo. Fe allai ei gyd-chwaraewr Alex Hales orfod rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos, ac yntau’n dyst i’r ffrwgwd.
Mewn datganiad yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod soced llygad dyn 27 oed wedi cael ei dorri yn ystod y ffrwgwd.