Enillodd Laura Sugar a Jordan Howe fedal efydd yr un yn eu rasys 200 metr ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yn yr Eidal ddydd Llun.

Dyma’r llwyddiant diweddaraf i bara-athletwyr o Gymru yn Grosseto ar ôl i Aled Siôn Davies gipio’r fedal aur yn y siot ddydd Sul.

Cwblhaodd Sugar ei ras hithau yn y categori T44 mewn 28.29 eiliad, gan dorri 0.46 eiliad oddi ar ei hamser yn y pencampwriaethau yn Abertawe ddwy flynedd yn ôl.

Cwblhaodd Howe ei ras yntau yn y categori T35 mewn 28.27 eiliad, ac yntau hefyd yn torri 0.46 eiliad oddi ar ei amser yn Abertawe.