Mae dau o gefnogwyr Lloegr wedi cael eu carcharu a’u gwahardd o Ffrainc ar ôl ymddangos gerbron llys yn Marseille yn dilyn y trais yn y ddinas dros y penwythnos.
Alexander Booth ac Ian Hepworth yw’r ddau gefnogwr cyntaf i fynd o flaen eu gwell yn dilyn y gwrthdaro rhwng cefnogwyr Lloegr a chefnogwyr Rwsia.
Mae un cefnogwr bellach yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w ben ac mae trefnwyr Ewro 2016, Uefa, yn bygwth gwahardd Lloegr a Rwsia o’r gystadleuaeth os bydd ‘na fwy o ymladd.
Cafodd Alexander Booth, 20, o Huddersfield, ei garcharu am ddau fis am daflu potel at yr heddlu ac mae wedi cael ei wahardd rhag mynd i Ffrainc am ddwy flynedd.
Cafodd Ian Hepworth, 41, sy’n nyrs seiciatrig o Sheffield, ddedfryd o dri mis yn y carchar am yr un drosedd a chafodd yr un gwaharddiad.
Wrth ymateb i’r ddedfryd, dywedodd tad Alexander Booth, Chris, oedd mewn dagrau ar ôl yr achos, ei fod am “frwydro” yn erbyn penderfyniad y llys, a oedd, meddai, yn “gamwedd”.
Cyflwr difrifol
Mae Andrew Bache, 50, o Portsmouth, a gafodd anaf i’w ben ar ôl cael ei guro gan gefnogwyr o Rwsia oedd â bariau haearn, yn dal i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Ffrainc.
Roedd y ddwy wlad yn rhan o’r ffrwgwd nos Sadwrn yn Marseille, ar ôl i’r ddau dîm dynnu’n gyfartal yn y gêm yn y Stade Velodrome.
Ond dywedodd Brice Robin, prif erlynydd Marseille, nad oedd yr un cefnogwr o Rwsia wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r trais.
Fe ddywedodd fod tua 150 o hwliganiaid o Rwsia wedi bod yn rhan o’r trafferthion. Yn ôl Brice Robin, roedd swyddogion wedi methu â’u dal am eu bod wedi cyrraedd y ddinas ar y trên.
Mae chwech o gefnogwyr bellach wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad a’r trais, gan gynnwys bachgen 16 oed, sydd wedi’u cyhuddo o daflu poteli.
Wayne Rooney: ‘cadwch draw’
Mae rheolwr Lloegr, Roy Hodgson a’r capten, Wayne Rooney, bellach wedi apelio ar eu cefnogwyr i “gadw draw o’r trafferthion” yn dilyn bygythiad Uefa i’w gwahardd.
Mewn fideo, fe wnaeth Wayne Rooney, ofyn i gefnogwyr sydd heb docynnau i’r gemau beidio â theithio i Ffrainc o gwbl.