Jade Jones
Mae’r ymladdwr taekwondo Jade Jones wedi dweud ei bod hi eisiau bod yn “arwr” yn ei champ ar ôl ennill medal aur yng Ngemau Ewrop neithiwr.
Cipiodd y ferch 22 oed o’r Fflint y fuddugoliaeth ar ôl trechu Ana Zaninovic 12-9 yn yr ornest derfynol, a hi yw’r trydydd athletwr i ennill aur dros Brydain yn y Gemau yn Baku.
“Mae’n wych cyflawni cymaint ar oed mor ifanc, ond mae gen i dal deitlau byd ac Ewropeaidd i’w hennill. Dw i eisiau dod yn arwr yn fy nghamp, felly dydw i ddim wedi gorffen eto,” meddai Jade Jones.
“Roeddwn i’n siomedig iawn ar ôl pencampwriaethau’r byd [pan gollodd diolch i gamgymeriad sgorfwrdd] ac fe wnes i’n dda jyst i fynd nôl i ymarfer. Roeddwn i eisiau hyn cymaint, ac ro’n i’n cario ‘mlaen dweud wrth fy hun mod i ddim eisiau colli hynny eto.”
Ychwanegodd nad oedd hi wedi ymladd i “100%” o’i gallu yn y gystadleuaeth eleni, ond ei bod hi wedi “gwella tipyn” dros yr wythnosau diwethaf.