Mo Farah
Fe fethodd Mo Farah gymryd dau brawf cyffuriau yn y blynyddoedd yn arwain at ei fuddugoliaethau yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, yn ôl adroddiadau.
Cipiodd y rhedwr fedalau aur yn rasys y 5,000m a’r 10,000m y Gemau, ac roedd yn un o sêr athletau Llundain 2012.
Ond mae’r rhedwr nawr dan y chwyddwydr ar ôl honiadau gan raglen BBC Panorama fod ei hyfforddwr Alberto Salazar a’i bartner hyfforddi Galen Rupp wedi bod yn ymwneud â chyffuriau.
Yn ôl y Daily Mail, fe fethodd Mo Farah a mynychu dau brawf cyffuriau yn ystod ei baratoadau tuag at y Gemau Olympaidd, unwaith yn 2010 ac unwaith yn 2011.
Dim honiadau
Wnaeth rhaglen Panorama ddim gwneud unrhyw gyhuddiadau yn erbyn Mo Farah ynglŷn â chymryd cyffuriau, fodd bynnag, ac fe fethodd Farah y prawf cyntaf cyn iddo ddechrau gweithio â Salazar.
Yn ôl y rhedwr, fe fethodd â chlywed cloch y drws yn canu ar gyfer yr ail brawf cyffuriau.
Petai Mo Farah wedi methu â mynychu trydydd prawf, fe allai fod wedi cael ei wahardd am bedair blynedd.
Mae disgwyl iddo ddychwelyd i gystadlu yng nghyfarfod nesaf y Diamond League ym Monaco fis nesaf.