Yn dilyn gorchestion Graham Wagg gyda’r bat ar ddechrau’r trydydd diwrnod, gwnaeth bowliwr cyflym Morgannwg, Michael Hogan ddwyn rhwyfaint o’r sylw yn ystod y prynhawn.
Cipiodd yr Awstraliad bum wiced wrth i Swydd Surrey gyrraedd 276-8 yn eu hail fatiad ar ddiwedd y trydydd diwrnod, gan sicrhau blaenoriaeth o 245.
Zafar Ansari oedd y batiwr cyntaf i ildio’i wiced i Hogan, wedi’i ddal gan y wicedwr Mark Wallace a’r cyfanswm yn 56.
Torrodd Hogan bartneriaeth o 64 rhwng Arun Harinath a Ben Foakes i gipio’i ail wiced – trydedd wiced Swydd Surrey – wrth i Wallace hawlio’i ail ddaliad yn y batiad.
Aneesh Kapil oedd y dyn anffodus a roddodd drydedd wiced i Hogan, wrth i’r Awstraliad ganfod coes y batiwr o flaen y wiced ac yntau heb sgorio.
Daeth pedwaredd wiced i Hogan – a thrydydd daliad i Wallace – wrth i’r cyfuniad gipio wiced y Gwyddel o wicedwr, Gary Wilson, a Swydd Surrey bellach yn 273-6.
Cyfunodd Hogan a Wallace am y pedwerydd tro i gipio wiced y capten Gareth Batty, gan gwblhau gorchest Hogan.
Roedd wiced yr un hefyd i’r bowliwr achlysurol Will Bragg, a’r troellwyr Andrew Salter a Colin Ingram.
Vikram Solanki (33 h.f.a.) a Chris Tremlett (0 h.f.a.) fydd wrth y llain ar ddechrau’r diwrnod olaf.