Y Gwyddel Darren Clarke sydd wedi cael ei benodi’n gapten ar dîm Ewrop wrth iddyn nhw geisio dal eu gafael ar Gwpan Ryder yn 2016.

Mae Clarke, 46, wedi cystadlu fel chwaraewr mewn pump o gystadlaethau rhwng Ewrop a’r Unol Daleithiau ac fe fu’n is-gapten ddwywaith.

Cafodd Clarke ei ddewis i arwain yr ymgyrch nesaf ar draul Miguel Angel Jiminez a Thomas Bjorn.

Capten y tîm buddugol yn 2014, Paul McGinley, ynghyd â’r cyn-gapteiniaid Jose Maria Olazabal a Colin Montgomerie a rhai o swyddogion tîm Ewrop gafodd y dasg o benodi olynydd i McGinley yntau, yn dilyn cystadleuaeth lwyddiannus yn Gleneagles y llynedd.

Roedd Clarke wedi enwebu’i hun i fod yn gapten yn 2014, a arweiniodd at ffrae â McGinley.

Ond mae Clarke eisoes wedi awgrymu y bydd yn gofyn i McGinley am gyngor cyn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.

Bydd yr Unol Daleithiau’n cyhoeddi eu capten nhw’r wythnos nesaf, ac mae disgwyl i Davis Love, y capten yn 2012, gael ei benodi.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Darren Clarke: “Yn naturiol, rwy’n falch iawn o gael fy newis yn gapten ar dîm Ewrop ar gyfer Cwpan Ryder 2016.

“Bu Cwpan Ryder yn rhan enfawr o fy mywyd a fy ngyrfa, felly mae cael y cyfle i arwain Ewrop y flwyddyn nesa’n anrhydedd anferth.

“Rwy’n lwcus o fod wedi chwarae a gweithio o dan nifer o gapteiniaid gwych yn ystod fy saith Cwpan Ryder hyd yn hyn ac rwy’n edrych ymlaen at yr her o geisio dilyn yn ôl eu traed a helpu Ewrop i bedwaredd buddugoliaeth o’r bron yn Hazeltine y flwyddyn nesaf.”