Laura Sugar
Torrodd y Gymraes Laura Sugar record Brydeinig yn ystod Grand Prix Birmingham yr IPC ddoe trwy orffen ras 100m yn nosbarth T44 mewn 13.55 eiliad.
Curodd hi record flaenorol Sophie Kamlish o 0.07 eiliad, gan orffen y ras yn Stadiwm Alexander yn drydydd.
Daw’r llwyddiant diweddaraf i Laura Sugar – sydd ar fin dechrau swydd newydd fel athrawes ymarfer corff yng Nghaerlŷr – wedi iddi gipio dwy fedal efydd ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC yn Abertawe’r wythnos diwethaf.
Roedd hi’n agos iawn rhwng Marlou van Rhijn o’r Iseldiroedd ac Irmgard Bensusan o’r Almaen am y fuddugoliaeth, ond van Rhijn aeth â hi o drwch blewyn wrth orffen gyda’i pherfformiad gorau’r tymor hwn mewn 13.13 eiliad.
Adeiladodd y ferch 22 oed o’r Iseldiroedd ar y llwyddiant gafodd hi yn Abertawe’r wythnos diwethaf, lle enillodd hi ddwy fedal aur ac un fedal efydd.
Ail i Aled Siôn Davies
Bu’n rhaid i’r Cymro Aled Siôn Davies fodloni ar ail safle ddoe, wrth iddo gael ei guro gan y Sais Dan Greaves yn y ddisgen yng nghategori F42/F44.
Enillodd y Sais o 19 o bwyntiau wrth i’r ddau gategori gael eu cyfuno, wedi taflu 60.01 metr i ychwanegu at ei lwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad a Phencampwriaethau Ewrop eleni.
Y tymor hwn, mae Greaves wedi ennill dwy fedal aur ac wedi sicrhau perfformiad personol gorau ddwywaith.
Cipiodd y fuddugoliaeth yn Abertawe yr wythnos diwethaf wrth iddo daflu pellter o 62.34 metr.
Yn y cyfamser, gorffennodd Josie Pearson o’r Gelli Gandryll yn drydydd wrth daflu’r pastwn (14.52 metr), tra bod Jo Butterfield – enillydd y fedal aur i Brydain yn Abertawe – wedi cipio’r fuddugoliaeth gyda thafliad gorau o 17.52 metr.
Adeiladu ar lwyddiannau Abertawe
Daw’r llwyddiant diweddaraf i Laura Sugar ac Aled Siôn Davies wedi iddyn nhw gyfrannu pedair o fedalau rhyngddyn nhw at gyfanswm tîm Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yn Abertawe’r wythnos diwethaf.
Cyfrannodd athletwyr o Gymru ddeuddeg medal at gyfanswm Prydain yr wythnos diwethaf:
2 Aur: Aled Sion Davies (Disgen, Siot F42)
3 Arian: Kyron Duke (Siot, Gwaywffon F41), Josie Pearson (Taflu pastwn F32/F51)
7 Efydd: Laura Sugar (100m, 200m T44), Jordan Howe (100m, 200m T35), Bradley Wigley (100m T38), Rhys Jones (100m T37), Olivia Breen (100m T38)
Gorffennodd Bradley Wigley yn drydydd yn y 200m ond doedd dim medal i’r Cymro gan mai tri yn unig oedd yn y ras.
Roedd Olivia Breen a Jenny McLoughlin hefyd yn rhan o dîm ras gyfnewid 4x100m Prydain gipiodd fedal arian.
Enillodd y Cymry, felly, 12 allan o 52 o fedalau Prydain (16 aur, 19 arian, 17 efydd) ac mae llwyddiant y gystadleuaeth yn golygu bod Abertawe yn gobeithio denu cystadlaethau tebyg i’r ddinas yn y dyfodol.