Enw: Y Geltaidd
Sefydlwyd: 1889
Lleoliad: Prifysgol Aberystwyth
Llywydd: Matthew Gower
Capten Rygbi Bechgyn: Iestyn Jones
Capten Pêl-droed Bechgyn: Celt Iwan
Capten Pêl-rwyd: Gwenllian Gwilym
Capten Rygbi Merched: Catrin Herbert
Capten Pêl-droed Merched: Alaw Gwyn
Y penwythnos hwn fe fydd myfyrwyr colegau Cymru’n dod at ei gilydd mewn gwledd o ddiwylliant a chystadlu brwdfrydig wrth i’r Eisteddfod Ryng-Golegol gyrraedd Abertawe.
Ond cyn yr holl farddoni a meddwi fe fydd gala chwaraeon ar brynhawn dydd Gwener, ac fe fydd gan Tîm yr Wythnos ddigon ar ein plât wrth ddilyn helyntion pump o dimau’r Geltaidd.
Cafodd y gymdeithas chwaraeon yma’i sefydlu gan fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth nôl yn yr 19eg ganrif, gyda’r Geltaidd yn dathlu 125 mlynedd o fodolaeth eleni!
Ac fe fydd y pum tîm fydd yn cystadlu yn y rhyng-gol eleni’n gobeithio cipio’r goron chwaraeon dros Aberystwyth eto eleni, gan drechu Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin ac Abertawe am flwyddyn arall.
Mae myfyrwyr Aberystwyth wedi bod yn fuddugol yn y gala chwaraeon am y ddwy flynedd diwethaf, gan gipio’r tlws yng Nghaerfyrddin y llynedd a Bangor y flwyddyn cynt, gyda’r bechgyn rygbi a’r tîm pêl-rwyd yn ennill eu cystadlaethau nhw ddwywaith.
Eleni fe fydd dau dîm newydd yn gobeithio sgubo stiwdants Aber i’r brig, gyda’r merched yn cystadlu yn y pêl-droed a rygbi am y tro cyntaf.
Dyma dimau rygbi’r bechgyn a’r merched yn cyflwyno’i hunain, gyda neges gan Matthew Gower i gloi!
Capteiniaid y pêl-rwyd, Gwenllian Gwilym, a phêl-droed y merched, Alaw Gwyn, yn edrych ymlaen at y twrnament:
Os hoffech chi fod yn ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360, cysylltwch â ni drwy e-bost neu gyda’r hashnod #timyrwythnos ar Twitter.