Mae’r paffiwr Nathan Cleverly wedi dweud y bydd yn gwybod “o fewn y misoedd nesa’” a yw am barhau i focsio neu beidio.

Ar ôl colli ei deitl byd WBO trwm-ysgafn nos Sadwrn, mae’r ymladdwr a anwyd yng Nghaerffili wedi dweud y bydd yn cymryd amser i ystyried ei ddyfodol.

Ar ei wefan, mae’n dweud bod angen gadael i’r llwch setlo cyn penderfynu, ac yntau wedi body n gweithio yn y gym yn soled ers dechrau’r flwyddyn.

Gweld sut y bydd yn teimlo

Ar Radio Wales, fe awgrymodd y byddai’n dilyn ei reddf – “Efallai y bydda’ i’n teimlo fy mod eisiau rhoi cynnig arall arni, neu efallai y byddai’n teimlo fy mod wedi cael digon,” meddai.

Fe gollodd mewn pedair rownd i Sergey Kovalev yn y Motorpoint yng Nghaerdydd ond roedd hynny oherwydd gallu ei wrthwynebydd, meddai.

Roedd yn mynnu bod y profiad yn un “gwych”.