Norman Bettison, y cyn heddwas (Llun PA)
Roedd heddlu yn achos trychineb pêl-droed Hillsborough wedi gwneud cais i gronfa’r dioddefwyr am arian i wella swyddfeydd heddlu a hyd yn oed i brynu fflat gwyliau i blismyn.

Mae’r datgeliadau ym mhapur newydd y Liverpool Echo wedi cael eu condemnio’n hallt gan deuluoedd y 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl a gafodd eu lladd yn y digwyddiad yn Sheffield yn 1989.

“Dyma un o’r pethau mwya’ dychrynllyd yr ydw i wedi ei glywed ers tro byd,” meddai un o’r arweinwyr, Margaret Aspinall.

Ymhlith y ceisiadau, roedd Norman Bettison, y plismon sydd wedi ei gyhuddo o guddio’r gwirionedd am y trychineb, wedi gwneud cais am £2,000 i wella cegin mewn swyddfa heddlu.

‘Eisiau prynu fflat gwyliau’

Fe gyfaddefodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu South Yorkshire heddiw fod ceisiadau eraill wedi cynnwys prynu fflat gwyliau ar gyfer plismyn.

Ond, meddai Andy Holt wrth y BBC, doedd dim o’r ceisiadau dadleuol wedi eu derbyn gan ymddiriedolwyr y gronfa.

Er mai aelodau’r cyhoedd oedd wedi rhoi llawer o’r arian at honno, fe ddywedodd Margaret Aspinall nad oedd yr arian i gyd wedi mynd i’r dioddefwyr.

Bellach, fe ddaeth yn amlwg fod heddlu ar fai am lawer o’r hyn ddigwyddodd yn ystod y gêm bêl-droed yn rowndiau cyn derfynol Cwpan Lloegr.