Cleverly - ystyried ei ddyfodol
Roedd i fod yn benwythnos hanesyddol o ran chwaraeon yng Nghymru, ond fe drodd yn sur.

Fe gollodd Caerdydd ac Abertawe eu gemau yn yr Uwch Gynghrair pêl-droed – y tro cynta’ i’r ddau glwb chwarae yn yr adran ucha’ yr un pryd.

Fe gollodd y paffiwr Nathan Cleverly ei bencampwriaeth byd ac, wrth golli i Gloucestershire yn y criced, fe beryglodd Morgannwg eu gobeithion o gyrraedd rowndiau ola’r bencampwriath 40 pelawd.

Yr ymateb

Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, wedi annog ei chwaraewyr i roi dydd Sadwrn o’r neilltu ar ôl iddyn nhw gael cweir 4-1 gan y pencampwyr, Man Utd.

Ac, yn ôl rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, wnaeth yntau ddim dysgu llawer wrth i Gaerdydd golli eu gêm gynta’ erioed yn yr Uwch Gynghair o 2-0 yn West Ham.

Ar ben popeth, mae Cleverly wedi dweud y bydd yn ystyried ei ddyfodol ar ôl colli ei ornest yn erbyn Sergey Kovalev mewn dim ond pedair rownd yng Nghaerdydd.