Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Terry Hands, cyn-Gyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, sydd wedi marw’n 79 oed.

Cafodd ei benodi i arwain y theatr yn 1997 yn ystod cyfnod cythryblus, ac fe wnaeth ei thrawsnewid i fod yn un o theatrau mwyaf llwyddiannus Cymru.

Fe oedd sylfaenydd Everyman Theatre yn Lerpwl, ac fe fu’n Gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company yn Stratford-upon-Avon.

Enillodd e Wobr Olivier yn 1978 am fod y Cyfarwyddwr Gorau am ei gynhyrchiad o Henry VI, oedd yn serennu Alan Howard a Helen Mirren.

‘Cawr o ddyn’

Mae’r actores Caryl Parry, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn dweud ei fod e’n “gawr o ddyn”.

“Y dyn mwya’ hyfryd oedd wedi ymddiried i fi rannau all actores ifanc ddim ond breuddwydio amdanyn nhw,” meddai ar ei thudalen Facebook.

“Roedd e’n ddrwg ac yn ddoniol, mor sych ag asgwrn ar adegau ond â’i lygaid yn pefrio!

“Fe ddysgodd i fi sut i fod yn ddewr ar lwyfan.

“Fe wnaeth e siapio fy ngyrfa ac am hynny, bydda i bob amser yn ddiolchgar.

“Cawr o ddyn. Diolch T.”

Dywed y Royal Shakespeare Company eu bod nhw’n “teimlo ei golli yn ddwfn”.

Yn ôl Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig presennol Theatr Clwyd, “roedd Terry Hands yn gawr y theatr ac yn golosws Theatr Clwyd”.

Dywed National Theatre Wales ei fod e’n “gyfarwyddwr a chyn-Gyfarwyddwr Artistig gwych a oedd yn ysbrydoli”.

.