Ffion Wyn Bowen yw Cyfarwyddwr Artistig newydd Cwmni Theatr Arad Goch, gan olynu Jeremy Turner.

Yn wyneb ac enw cyfarwydd ym maes theatr yng Nghymru, mae hi wedi arbenigo mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc dros gyfnod o 28 o flynyddoedd.

Bydd hi a Nia Wyn Evans, y Cyfarwyddwr Busnes, yn gyfrifol am arwain y cwmni a Chanolfan Arad Goch yn Aberystwyth.

Bywyd a gyrfa

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, graddiodd Ffion Wyn Bowen mewn Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chwblhau cwrs TAR Uwchradd Drama cyn cael ei swydd broffesiynol gyntaf fel actores gan Arad Goch yn 1996.

Yn fwy diweddar, bu’n gyfarwyddwr Llygoden yr Eira, cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo; Antur y Goron, cyd-gynhyrchiad Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chwmni Atebol; Cymrix a Ble mae’r dail yn hedfan ar gyfer Arad Goch; cyfarwyddwr testun ar Whimsey, cyd-cynhyrchiad Krystal S. Lowe a Theatr Genedlaethol Cymru; a chafodd ei dewis yn aelod o Gynllun Awenau Theatr Genedlaethol Cymru, sef cynllun hyfforddiant i gyfarwyddwyr newydd yn 2019.

‘Model newydd a chyffrous’

Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch, mae gweledigaeth gyffrous gan Ffion Wyn Bowen wrth ddechrau ar gyfnod newydd i’r cwmni.

“Rydym yn hynod falch y bydd Ffion Wyn Bowen yn cymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Artistig i gyd-arwain Arad Goch gyda Nia Wyn Evans, y Cyfarwyddwr Busnes,” meddai.

“Dyma fodel newydd a chyffrous i ni ac edrychwn ymlaen yn hyderus at y cyfnod nesaf hwn yn hanes y cwmni.

“Mae gan y ddwy gyfuniad delfrydol o sgiliau, profiad ac angerdd i greu’r cyd-destun ar gyfer theatr fywiog, berthnasol a heriol i’n pobol ifanc, gan ddod â’r iaith Gymraeg a phrofiadau ffurfiannol yn fyw iddyn nhw.

“Mae gan Ffion brofiad helaeth fel actor a chyfarwyddwr, yma yng Nghymru a thrwy deithio ei gwaith yn rhyngwladol.

“Bydd y profiad hwnnw yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i wireddu ein huchelgais fel cwmni o sicrhau llwyfan teilwng i’r celfyddydau ac i ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc.”

‘Creu a datblygu theatr i bobol ifanc’

Bydd Ffion Wyn Bowen yn olynu Jeremy Turner, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch ers y cychwyn cyntaf dros 35 o flynyddoedd yn ôl.

A hithau newydd ddychwelyd o Gatalwnia, lle bu’n ymweld â gwyl theatrig, dywed fod creu a datblygu theatr i bobol ifanc wedi bod yn “hollbwysig” iddi ar hyd ei gyrfa.

“Ers y cychwyn hwnnw, rwyf wedi cael y cyfle i weithio gydag amryw o gwmnïau yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac mae pob profiad wedi cyfoethogi fy ngwybodaeth a chryfhau fy angerdd dros theatr i bobol ifanc.

“Sail llwyddiant Arad Goch ar hyd y blynyddoedd yw’r parodrwydd i esblygu ac i beidio â bod yn llonydd ac rwy’n awyddus i barhau felly yn y cyfnod cyffrous sydd o’n blaenau.”

Bydd hi’n dechrau yn ei swydd yn ffurfiol ar Orffennaf 1 eleni.

Ffion Wyn Bowen yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol newydd Cwmni Theatr Arad Goch

Bu yn actio mewn dramâu i blant ers dros chwarter canrif

Jeremy Turner wedi “adeiladu’r llwyfan, agor y drws a rhoi’r gefnogaeth i ddarganfod creadigrwydd”

Erin Aled

Teyrngedau wedi’u rhoi i Gyfarwyddwr Artistig Arad Goch wrth iddo gyhoeddi ei ymddeoliad