Mae cwmni sydd wedi bod yn creu sioeau theatr i ddegau o filoedd o blant ers 1989 wedi penodi Cyfarwyddwr Cynorthwyol newydd.

Wedi ei leoli yn Aberystwyth ac yn creu sioeau i blant y gorllewin, a rhai cenedlaethol a rhyngwladol, mae Cwmni Theatr Arad Goch yn denu dros 24,000 i wylio eu harlwy bob blwyddyn.

Ac mae gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol newydd dros chwarter canrif o brofiad yn gweithio yn y maes.

Ers 1996 mae Ffion Wyn Bowen wedi gweithio i Arad Goch fel actores yn bennaf, ond hefyd wedi cyfarwyddo dramâu ac arwain gweithgareddau creadigol i blant.

Hefyd mae wedi gweithio gyda chwmnïau drama eraill yng Nghymru a theithio tramor i berfformio gydag Arad Goch.

Yn ei swydd newydd bydd Ffion yn cyfarwyddo rhai o gynyrchiadau’r cwmni yn ogystal â datblygu mwy o weithgareddau gyda phlant a phobl ifanc.

“Rwy’n falch iawn iawn bod Ffion yn ymuno â staff parhaol y cwmni fel cyfarwyddwr cynorthwyol,” meddai Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch.

“Mae ganddi  lwyth o brofiad a gwybodaeth am theatr i gynulleidfaoedd ifanc a bydd ei chyfraniad i ddatblygiad y cwmni dros y blynyddoedd nesaf yn werthfawr iawn.”