Bydd y ddeuawd boblogaidd y Brodyr Gregory yn dychwelyd i Rydaman – eu tref enedigol – ar gyfer noson i ddathlu eu gyrfa 50 mlynedd yn Theatr y Glowyr ar Mai 5, gyda’r adloniant yn dechrau am 7:30 o’r gloch.

Dechreuodd y ddau berfformio mewn clybiau yng ngogledd Lloegr, cyn symud ymlaen i stiwdios teledu HTV a chreu nifer o gyfresi ar gyfer S4C.

Bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan yr actorion Phyl Harries ac Ieuan Rhys.

Fe fydd y brodyr yn hel atgofion am eu magwraeth yn Rhydaman, gyda’r trefnwyr yn addo “digonedd o straeon doniol iawn”.

Bydd aelodau’r gynulleidfa hefyd yn cael cyfle i ofyn eu cwestiynau eu hunain a bydd perfformiad gan y deuawd i ddod â’r dathliad i ben.

“Bydd Noson Yng Nghwmni’r Brodyr Gregory yn achlysur na allwch ei golli a fydd yn rhoi cipolwg ar fywydau a gyrfaoedd deuawd arbennig iawn, yn yr union dref lle dechreuodd eu taith anhygoel,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.

Mae tocynnau yn costio £14 a gellir eu prynu ar-lein ar wefan www.theatrausirgar.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 0345 226 3510.