Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n bwrw golwg ar ddigwyddiad trawsddiwylliannol ychydig yn wahanol i’r arfer…
Ar yr olwg gyntaf, mae gosod un o glasuron Shakespeare mewn cyd-destun Indiaidd yn gysyniad digon anarferol. Ond fe dalodd ar ei ganfed i gwmni Tara Arts – mewn cydweithrediad â Black Theatre Live – wrth iddyn nhw ddod â’u cynhyrchiad unigryw ac arloesol o ‘Macbeth’ i Ganolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe ar drothwy Wythnos Shakespeare.
Fe fu’r ‘Ddrama Albanaidd’ yn gysylltiedig ag ofergoelion erioed. Mor briodol felly i’r perfformiad nos Wener y 13eg gael ei ganslo am resymau y tu hwnt i reolaeth y trefnwyr. A minnau yn sedd rhif 13 y noson ganlynol, fe ddychwelodd y cast i’r llwyfan yn llawn egni a brwdfrydedd, wrth i’r gynulleidfa ddisgwylgar gael eu cludo i fyd y ‘maharaja’, yr hijra a’r curiadau bhangra.
Wrth osod y clasur llenyddol, sydd mor Seisnig yn ei hanfod, ym myd y gymdeithas Indiaidd ac o fewn teulu Asiaidd ym Mhrydain, fe lwyddodd y cyfarwyddwr Jatinder Verma yn ei nod o ddehongli dau fyd dramâu Shakespeare – y goruwchnaturiol a byd naturiol yr uchelwyr. Fel yr eglura’r cyfarwyddwr yn ei nodiadau yn y rhaglen, mae gan fewnfudwyr ddau fyd – y byd y maen nhw’n byw ynddo a’r byd y gwnaethon nhw symud oddi wrtho. Wrth chwilio am eu gwir hunaniaeth oddi cartref, mae ganddyn nhw gysylltiad cryfach o lawer â’u gwreiddiau. Mewn achosion eithaf, chwedl Verma, gall chwilio am wreiddiau yn y byd sydd ohoni heddiw arwain unigolion at fyd ffwndamentalaidd y Taliban ac ISIS.
Yn y cynhyrchiad hwn, daw dau fyd y teulu Asiaidd-Prydeinig ynghyd pan ddaw aelod o’r teulu wyneb yn wyneb â hijras o ddinas Mumbai, carfan o bobol drawsryw neu ‘drydydd rhyw’ sydd ond yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol ar hyn o bryd yn India a’r Almaen. Pwnc digon dwys yw’r ‘hijra’. Caiff y garfan hon o bobol ei disgrifio gan Verma fel ‘cymuned bryfoclyd o bobol drawsryw’ sy’n ‘rhan o fyd ysbrydol’, ac maen nhw wedi’u gwreiddio’n ddwfn yng nghymdeithas India. O wisgo tri dyn i fyny yng ngwisg y gwrachod – neu mewn sari, â bod yn fanwl gywir! – i broffwydo dyrchafu Macbeth yn bennaeth, fe eir â’r ddrama yn gelfydd yn ôl i’w gwreiddiau Shakespeareaidd pan fyddai actorion gwrywaidd yn chwarae rôl y cymeriadau benywaidd. Ychwanegwch ychydig o ganu digri at y pair ac fe gewch chi berfformiad cofiadwy gan y triawd sydd mor ganolog i’r stori.
Deuawd sy’n allweddol i’r ddrama, wrth gwrs, yw Macbeth a’i wraig. Mae’r cyfan yn cylchdroi o gwmpas ymdrechion Lady Macbeth i rymuso’i gŵr a’i yrru i ladd y brenin Duncan er mwyn i broffwydoliaeth y gwrachod gael ei gwireddu. Un o ychydig wendidau’r cynhyrchiad hwn, o bosib, oedd diffyg datblygiad cymeriad Lady Macbeth (Shaheen Khan). Hi yw asgwrn cefn ei gŵr yn nechrau’r ddrama. Cawn ddeuoliaeth weladwy rhwng y wraig oedd yn rheoli’r sefyllfa ar y cychwyn, a’r wraig oedd yn chwarae ail feiolin i’w gŵr yn niwedd y ddrama. Ai ymgais oedd hyn i adlewyrchu israddoldeb y wraig Asiaidd o’i chymharu â’i gŵr? Wyddwn i ddim. Rhaid canmol Robert Mountford am ei bortread o Macbeth ar y llwybr i gipio’r goron – neu’r ‘turban’ yn yr achos hwn – oddi ar Duncan. Wedi cyflawni’r weithred, ac ar ôl cael ei goroni, fe welwn furlun o Macbeth fel Duw yng nghefn y llwyfan wedi’i addurno â garlant traddodiadol a osodir o amgylch murluniau o Dduwiau Indiaidd yn y cartref.
Os mai perthynas Macbeth a Lady Macbeth oedd un o amwyseddau’r cynhyrchiad, rhaid dweud mai un o’i gryfderau pennaf oedd portread Shalini Peiris o ddau is-gymeriad, y porthor a’r gwas. Ymhell o Seisnigrwydd y ddrama a’r prif gymeriadau, cymeriadau cynhenid Indiaidd oedd y ddau yma. Tarodd hi’r hoelen ar ei phen gyda’i hiwmor, ei hamseru a’i hystumiau, ond dangosodd ei hyblygrwydd fel actores wrth ymgymryd â chymeriad mwy difrifol a dwys Lady Macduff – sydd mor bell i ffwrdd o gymeriadau coch a chwrs y porthor a’r gwas ag y gellir dychmygu! Hi, yn anad neb, gafodd yr ymateb mwyaf gan y gynulleidfa ar y noson.
Yn y cefndir drwy gydol y cynhyrchiad mae’r drymiwr Rax Timyr, sy’n darparu’r curiadau ar gyfer rhai o olygfeydd mwyaf eiconig y ddrama. Er ei fod yn y cefndir, mae’n gyrru’r plot yn ei flaen gyda’i gymysgedd o guriadau ar gyfer golygfeydd brwydro, coroni Macbeth a chyfarfyddiad Birnam Wood a Dunsinane Hill, y cyfarfyddiad dramatig sy’n symbol o ddiwedd teyrnasiad Macbeth yn frenin.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn dyst i’r ffaith fod Tara Arts wedi datblygu’n llawer iawn mwy na’r cwmni teithiol a sefydlwyd yn 1977. Cafodd y cwmni gartref parhaol yn 1985, ac fe’i gwahoddwyd yn 1989 i fod y cwmni Asiaidd cyntaf i berfformio yn y National Theatre. Roedd diffyg cyllid wedi’i orfodi i fynd yn ôl i deithio unwaith eto ddechrau’r 1990au. Ond adeg ei benblwydd yn 30 oed yn 2007, cafodd y cwmni gartref newydd yn ne Llundain, sy’n cael ei adnewyddu ar gyfer tymor newydd o gynyrchiadau traws-ddiwylliannol yn 2015.
Er mai arhosiad byr gafodd y cwmni yng Nghymru eleni (y Taliesin gynhaliodd yr unig berfformiadau y tu allan i Loegr), mawr obeithio y byddan nhw’n ôl eto yn y dyfodol. Os byddan nhw, da chi, ewch i’w gweld nhw. Fe gewch chi, fel finne, eich cyfareddu.