Llai o benodau Rownd a Rownd ar S4C oherwydd Covid
Covid wedi cael effaith ar yr amserlen ffilmio, meddai cynhyrchwyr y gyfres
Dim Gryffalo ar S4C – oherwydd achos hawlfraint hanesyddol “heb ei setlo”
S4C yn cadarnhau nad yw’n cael darlledu addasiadau Cymraeg o ffilmiau byrion The Gruffalo oherwydd anawsterau o ran hawlfraint
S4C yn ymddiheuro am broblemau sain Cân i Gymru – 42,200 wedi gwylio
“Natur fyw y gystadleuaeth yn golygu fod problemau technegol yn codi o bryd i’w gilydd sydd tu hwnt i’n rheolaeth”
Yr actor Trevor Peacock wedi marw’n 89 oed
Mae’n fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Jim Trott, oedd ag atal dweud, yn The Vicar Of Dibley
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i achosion Covid-19 diweddar cwmni Rondo yng Nghaernarfon
Y gwaith o ffilmio Rownd a Rownd wedi ei ohirio ddwywaith yn y misoedd diwethaf
Clocsiwr Calan yn “lwcus iawn” i fod ar raglen y digrifwr Romesh Ranganathan
“Aeth y peth comedi yn bellach nag oeddwn i’n disgwyl,” medd Bethan Rhiannon
Cân i Gymru “hyd yn oed yn fwy cyffrous eleni” – er na fydd cynulleidfa fyw yn y theatr
96 wedi cystadlu eleni – Huw Chiswell, Tara Bethan, Angharad Jenkins ac Osian Candelas yn beirniadu
Y bachgen o Surrey sydd â’r canu “yn y gwaed”
Cai Thomas oedd yn canu ‘Suo Gân’ ar gychwyn y ddrama deledu The Pembrokeshire Murders
Duges Sussex yn cyhuddo Palas Buckingham o ddweud “anwireddau” amdani
Datgelu clip o sylwadau’r dduges yn ystod cyfweliad gydag Oprah Winfrey
The Crown yn un o enillwyr mawr y Golden Globes
Josh O’Connor ac Emma Corrin yn cipio gwobrau am eu portread o’r Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana