Lora Lewis
Nid yw Lora Lewis yn agosach at ddyfalu pwy laddodd Simon yn dilyn chweched bennod y ddrama. Os nad ydych chi wedi gweld y bennod peidiwch â darllen ymhellach…

A dyna ni, mae’r unig un a oeddwn i’n ei amau, neu wedi ei amau, wedi ei ladd. Wrth i bennod chwech gael ei darlledu, rydym ni’n ffarwelio â Jeff, yr un a oedd ar dop fy rhestr i. Unwaith eto, ‘dw i’n llwyr ddi-glem.

Mae cymeriadau Martin a Hazel yn achosi i mi gydio’n dynn iawn yn fy ngliniadur gan nad oes syniad gen i be’ ddiawl mae ‘ru’n o’r ddau am ei wneud nesa’.

Gyda thensiwn a mymryn o dywyllwch yn taro’r swyddfa’r wythnos hon, pam nad yw Martin yn teimlo unrhyw fath o edifeirwch? Euog. Ai Hazel a beintiodd y geiriau ar wal y stiwdio? Neu ai Claire oedd yn cuddio o dan y gôt?

Martin

Mae ‘na rywbeth am Martin sydd wir yn gyrru ias i lawr fy nghefn i, a bob tro mae’r camera yn cael saethiad llawn o’i wyneb ‘dw i’n cael rhyw deimlad anghynnes iawn yn ‘y mol.

Sut mae o’n adnabod bron iawn bawb ar lefel bersonol? Reg, i ddechrau, a ddaeth yn sioc fawr i mi wrth ei weld yn gorwedd yng ngwely Martin fatha’i fod o adra.

A rŵan Leslie, yn crio ar ysgwydd y dihiryn. Druan arni hi, yn cael ei hudo gan wên ffals a blewiach Martin.

Hazel

I mi, cymeriad Hazel yw’r un o’r rhai cryfaf ac mae Rhian Jones yn chwarae ei rhan hi’n berffaith. Mae ‘na rywbeth am y llygaid ‘na a’r pixie cut, ’dw i’n meddwl.

Roedd fy wyneb i bron a chyffwrdd y llawr pan gyhoeddodd ei bod hithau hefyd yn feichiog â babi Tudor. Ydy hi’n feichiog o gwbl?

Ro’n i ‘di anghofio’n llwyr fod gŵr Hazel yn y carchar gan ei bod hi mor awyddus a phenderfynol i hudo Tudor. Heb amheuaeth, dyle’ ni baratoi ein hunain ar gyfer ffrae go hegar rhyngddi hi a Claire yn y bennod nesa’.

Traed oer

Rŵan bod Jeff wedi diflannu’n llwyr (bechod!) gall Simon a Fran barhau â’u perthynas heb euogrwydd. Wel, dyna yw gobaith Simon, ond nid yw hi’n disgyn yn ôl i’w freichiau yn syth ar ôl marwolaeth ei gŵr.

’Dw i’n falch a dweud y gwir – mae gweld tristwch Fran yn ddarlun mwy gonest o lawer na cheisio argyhoeddi’r gynulleidfa y byddai’r wraig weddw yn hapus braf ym mreichiau dyn arall o fewn mater o oriau. Ydy hi’n difaru’r berthynas â Simon? Rhy hwyr codi pais ar ôl piso tydi.

Penbleth

‘Dw i’n dechra’ diflasu ar yr un cwestiwn y mae Mam yn ei ofyn bron iawn yn ddyddiol. “Wyt ti ‘di trio’r gystadleuaeth whodunnit 35 Diwrnod ‘na eto?”

“Naddo Mam.”

“A pham hynny?”

“Achos ‘dw i’m callach pwy laddodd Simon.”

‘Dw i’n dechrau amau Katie rŵan gan mai hi yw’r unig un hyd yn hyn sydd â dim rheswm dros ei ladd. Byddai hynny’n gwneud bywyd yn lot, lot haws.

Mae’r benbleth ‘dw i ynddi yn dangos pa mor llwyddiannus yw’r ail gyfres gan ein bod ni dal yn cwestiynu pob un o’r cymeriadau a chyda dim ond dwy bennod ar ôl, ‘dw i ‘di penderfynu eistedd ‘nôl a mwynhau yn hytrach na chwalu ‘mhen yn ceisio dyfalu.

Ydych chi’n gwybod pwy laddodd Simon bellach?