Her Ffilm Fer yn dathlu Mis Hanes LHDT+

“Hyd yn oed heddiw, ry’n ni’n bell ar ei hôl hi fel cenedl o ran cynrychioli straeon LHDT+ yn y cyfryngau”

S4C

Steffan Alun

Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth Her Ffilm Fer Hansh y llynedd, bydd y gystadleuaeth eleni yn dathlu Mis Hanes LHDT+.

Mi fydd gofyn i gystadleuwyr greu ffilm fer wreiddiol mewn 48 awr sydd yn canolbwyntio ar y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu thrawsryweddol.

Bydd yr enillwyr yn ennill gwobr o £1,000, yn ogystal â thocyn VIP i Ŵyl Gwobrau LHDT+ Iris ym mis Hydref, lle fydd y ffilm fuddugol yn cael ei dangos.

Bydd hefyd cyfle i’r enillwyr ddatblygu eu syniad ymhellach gydag Academi Ffilm Iris, sef cynllun sydd yn cael ei redeg mewn partneriaeth gydag S4C a Phrifysgol De Cymru.

‘Torri tir newydd’

Y comedïwr Steffan Alun, yw cyflwynydd yr her eleni, a bydd yn ymddangos mewn cyfres o fideos ar dudalennau Hansh drwy gydol y gystadleuaeth.

“Ar nodyn personol, fel dyn deurywiol, mae’n gyffrous gweld yr her yn manteisio ar Wythnos Hanes LHDT+, dyma gyfle gwych i bob un ohonon ni ddathlu gyda’n gilydd,” meddai.

“Hyd yn oed heddiw, ry’n ni’n bell ar ei hôl hi fel cenedl o ran cynrychioli straeon LHDT+ yn y cyfryngau, felly mae cyfle anhygoel yma i ffilmiau Her Ffilm Fer dorri tir newydd.

“Mae’r straeon yma’n digwydd bob dydd yn y byd go iawn, felly mae’n hen bryd i ni weld ein ffilmiau’n adlewyrchu hynny.

“Mae’r gystadleuaeth ar agor i bawb, ac mae hynny mor bwysig.  Mae’n hawdd meddwl, ‘nid fy lle i yw cymryd rhan mewn cystadleuaeth fel hon’. Rhaid newid hynny!”

‘Agored i bawb’

Eglurodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynorthwyol Hansh, eu bod nhw wedi penderfynu cynnal y gystadleuaeth fis Chwefror eleni er mwyn dathlu Hanes LHDT+.

“A hithau’n fis Hanes LHDT+ yn ystod mis Chwefror, rydyn ni wedi penderfynu cynnal yr her yn ystod y cyfnod yma i ddathlu cyfraniad y gymuned LHDT+ at fywyd yng Nghymru,” meddai Guto Rhun.

“Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac mi ydyn ni’n hynod gyffrous i weld sut y bydd gwneuthurwyr ffilm Cymru yn adrodd straeon sydd yn dathlu’r gymuned amrywiol yma, sydd wedi ei dan gynrychioli dros y blynyddoedd.

“Rydyn ni’n falch iawn i gyd-weithio gyda Gwobr Iris ac yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad tuag at wobr yr her eleni. Pwy a ŵyr, efallai bydd enillydd y Wobr Iris ymysg ein cystadleuwyr eleni? Pob lwc i bawb!”

← Stori flaenorol

Gig i ddathlu creadigrwydd dau artist talentog a rhoi blas o dirwedd llechi gwych y Gogledd

“Sut allwch chi beidio â chymryd ysbrydoliaeth o hanes a harddwch y lle hwn?”

Stori nesaf →

‘Viva Tregaron! Viva Boduan!’ – ymlaen at Eisteddfod 2022

Non Tudur

Prifardd yn benderfynol o godi calon ei gyd-Gymry fore Mawrth, ar ôl clywed y newyddion bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei gohirio

Hefyd →

Rhodri Owen, Mari Grug a Llinos Lee yn “parhau i fod yn aelodau pwysig iawn” o dîm Tinopolis

Elin Wyn Owen

Yn ôl Tinopolis, bydd y tri yn parhau i gyflwyno, ond mewn modd ychydig yn wahanol