Mae Partneriaeth Llechi Cymru wedi cyhoeddi byddent yn rhannu gig rithiol, unigryw, i ddathlu Dydd Gŵyl Miwsig 2021 ac ‘Enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Gogledd-orllewin Cymru’.
Y bwriad yw rhannu darllediad o berfformiad y grŵp 9Bach a’r bardd Martin Daws, a gynhaliwyd ym mis Medi’r llynedd, mewn partneriaeth â Chastell Penrhyn a Chyngor Gwynedd, yng Nghanolfan Pontio.
Cynhelir y digwyddiad i groesawu asesydd i Wynedd, fel rhan o gais y sir i wneud Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth Byd Unesco.
“Bethesda, ble cefais fy ngeni a fy magu”
Mae Lisa Jên Brown, y gantores a chyfansoddwraig sy’n uchel ei pharch yn rhyngwladol, ac a’i magwyd ym Methesda, yn dweud ei bod yn cael ysbrydoliaeth greadigol gan dirwedd chwarela Dyffryn Ogwen.
“Bethesda, ble cefais fy ngeni a fy magu – fy hynafiaid ymhlith yr ymsefydlwyr cyntaf yma – yn gweithio yn y chwarel – lle rydw i’n syllu o ffenest fy ystafell wely hyd heddiw.
“Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod cymaint o artistiaid… beirdd, awduron, cerddorion, actorion a chantorion… yn dod o Fethesda.
“Sut allwch chi beidio â chymryd ysbrydoliaeth o hanes a harddwch y lle hwn? Mae afonydd yn rhedeg fel gwythiennau oer o rew ac mae’r mynyddoedd yn sefyll fel Duwiau anferth.
“Mae’r chwarel lechi yn rhan o’r hanes a’r dirwedd honno, mae’n newid lliwiau a siapiau, y caledi a’r dioddefaint, ynghyd â’r wleidyddiaeth, y tynnu coes, y gymuned a ffurfiodd a’r chwerthin a’r crio sy’n atseinio rhwng y llechi porffor hyn – i ni sy’n agored i wrando ar hynny … mae’n gyffrous.
“Gyda pharch at yr hanes yma, does dim amheuaeth ei fod yn tanio ac yn cryfhau ein creadigrwydd.”
“Wythïen mor ddwfn o hanes”
Mae Martin Daws yn fardd llafar clodwiw ac yn gyn-Awdur Llawryfog Pobl Ifanc dros Gymru sydd wedi symud i Fethesda ac yn pwysleisio dylanwad y gymuned leol ar ei waith.
“Mae amgylchedd y chwareli llechi yma’n wythïen mor ddwfn o hanes cymdeithasol, amgylcheddol, gwleidyddol, a byd-eang.
“Rwy’n ei fwyngloddio am ysbrydoliaeth ac yn ei fwydo gyda fy ngherddi.
“Yr agosaf y byddaf yn edrych ar amgylchedd y chwarel, y mwyaf y gallaf weld yr hanes hwn, ac arsylwi ar natur yn iacháu’r gwastraff llechi toredig.”
Bydd y perfformiad i’w weld ar ap neu wefan AM.