Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru
Mae’r bardd a’r perfformiwr byw Martin Daws wedi cael ei benodi fel Awdur Llawryfog newydd Pobl Ifainc Cymru am y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r fenter yn rhoi llwyfan i gymunedau ieuenctid trwy Gymru i ddatblygu eu lleisiau creadigol ac i drafod materion perthnasol i blant ifanc heddiw, yn ôl Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd Martin Daws: “Rwy’n credu bod cerdd i bawb, a cherdd ym mhob un ohonom, ac fel Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru, rwy’n edrych ymlaen at roi cyfle i bob person ifanc yng Nghymru ddod o hyd i’r cerddi hynny.”

Mae dros 17,000 o bobl wedi cymryd rhan yn ei weithdai dros y blynyddoedd, mewn pob math o amgylcheddau gwahanol yn cynnwys yr ystafell ddosbarth, theatrau, coedwigoedd, gwyliau, prifysgolion, amgueddfeydd a hyd yn oed arosfannau bysiau.

‘Brwdfrydedd’

“Rwyf wrth fy modd gyda phenodiad Martin fel yr Awdur Llawryfog i Bobl Ifainc” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Bydd ei egni fel perfformiwr ac arweinydd gweithdai yn gwneud llenyddiaeth yn gelfyddyd fywiog, apelgar a pherthnasol i bobl ifainc yng Nghymru heddiw. Mae ysgrifennu creadigol yn sianel hollbwysig i fynegi’r hunan – a gydag anogaeth a brwdfrydedd Martin bydd llawer mwy o bobl ifainc yn magu’r hyder i ddweud eu dweud.”

Bydd Martin yn gohebu’n ddyddiol gan ddefnyddio cyfrif Twitter @YPLWales, gan roi cyfle i bobl ifainc ac oedolion sgwrsio gydag o a chymryd rhan mewn prosiectau rhyngweithiol fel creu cerddi torfol.

Bydd Martin Daws yn ymuno â Bardd Plant Cymru newydd, sy’n cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd ar 28 Mai.