Plas Llanerchaeron ger Aberaeron
Mae S4C yn chwilio am unigolion a theuluoedd i gymryd rhan mewn cyfres newydd, fydd yn golygu byw mewn plasty a blasu bywyd fel ac yr oedd ganrif yn ôl.

Fe fydd y gyfres gyfnod Y Plas, sy’n cael ei ffilmio  ym Mhlas Llanerchaeron ger Aberaeron, yn mynd a chriw o bobl yn ôl mewn amser i gael blas ar fywyd mewn plasty Cymreig ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf.
Mae’r cynnig i gymryd rhan yn agored i unigolion a theuluoedd o bob oed. Bydd y rhai sy’n cael eu dewis yn byw a gweithio yn y plasty, sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am dair wythnos ym mis Medi eleni.

Camu i esgidiau’r Sgweier

Bydd cyfle i gamu i esgidiau’r Sgweier neu wraig y tŷ,  neu gael blas ar fod yn forwyn, yn fwtler, neu’n gogydd.

I’r rhai fydd yn cymryd rhan bydd cyfle i wisgo, bwyta, gweithio a byw yn union fel ein cyndeidiau ym 1910, gyda’r camerâu yn dilyn pob cam.

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol ar gyfer S4C:  “Ryda ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddod a chyffro’r cyfnod i S4C, rhoi profiadau gwych i’r rhai fydd yn cymryd rhan, a digon o adloniant i’r gwylwyr adre. Mi fydd yna raglen blant arbennig yn cyd-fynd a’r gyfres, a gwefan addysgiadol fydd yn dod a’r holl hanes yn fyw.”

‘Byw fel Edwardiaid go iawn’

Dywedodd Paul Boland, rheolwr y plas yn Llanerchaeron:  “Mi fydd yn gyfle i blas Llanerchaeron ddod yn fyw wrth i bobl fyw fel Edwardiaid go iawn.

“Mi fydd yn ddifyr gweld pa mor ddibynnol ydy pobl Cymru heddiw ar foethusrwydd modern. Cario dŵr, llosgi glo yn hytrach na defnyddio gwres canolog, popty trydan, a phethau mor syml a rhoi menyn ar dost –  mae hyn yn golygu bod rhaid i rywun gorddi’r menyn a thylino’r toes. Mi fydd hi’n ddifyr iawn gweld sut maen nhw’n ymdopi gyda gweini ar bobl a chael pobl yn gweini arnyn nhw.”

Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref. Y dyddiad cau ar gyfer y rhai sydd am gymryd rhan yw dydd Llun 13 Mai.

Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm cynhyrchu ar yplas@yplas.tv neu 02920 671540.