Fe fydd Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn cau am gyfnod wrth i’r cwmni sy’n ei redeg ddod i ben.
Fe gyhoeddodd cwmni Pafiliwn Cyf wrth Golwg360 eu bod yn “diweddu” ac fe fydd cyfarfod o’r credydwyr ymhen llai na phythefnos.
Yr hinsawdd economaidd a chwymp mewn defnydd gan gwmnïau teledu sy’n benna’ gyfrifol yn ôl Cadeirydd y cwmni, John Watkin.
Y Pafiliwn yn aros
Ond roedd yn pwysleisio nad oedd y Pafiliwn ei hun yn cau’n derfynol – mae’n para’n eiddo i Ymddiriedolaeth Eisteddfodau Pantyfedwen ac maen ganddyn nhw hawl i’w ddefnyddio am saith niwrnod y flwyddyn.
Fe ddylai hynny ddiogelu Eisteddfod Pontrhydfendigaid a chynnig y posibilrwydd o gynnal ambell un neu ddau o ddigwyddiadau eraill.
Fe fydd y brydles bellach yn cael ei rhoi ar werth, gan obeithio y daw prynwr i gadw’r Pafiliwn yn agored.
Beio Nat West
Roedd John Watkin yn feirniadol o fanc y Nat West sy’n rhoi pwysau ar y cwmni i dalu gorddrafft yn ôl o £80,000 – er bod hwnnw wedi bod ar un adeg cyn uched a £200,000, meddai.
Y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol yw’r prif gredydwyr eraill, gydag £85,000, ac mae rhai dyledion bychain eraill.
“Swm cymharol fychan yw e; dyna pam fod y peth mor drist,” meddai John Watkin wrth Golwg360. “Ond does dim goleuni ymhen draw’r twnnel. Yn ystod y deunaw mis diwetha’, mae wedi bod yn hunllef arnon ni.
“Mae Llundain yn tisian a ninnau’n dal annwyd. Doedd dim dewis gan y Cyfarwyddwyr ond cau.”
Y cefndir
Mae’r Pafiliwn wedi ailagor ers chwe blynedd, ar ôl i Gyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru ei gefnogi. Fe gafodd grantiau o tua £2.3 miliwn yn benna’ trwy arian Amcan Un.
Ymhlith y gweithgareddau sydd wedi bod yno, mae eisteddfodau sir yr Urdd, gweithgareddau Ffermwyr Ifanc, cystadleuaeth Cân i Gymru, gŵyl ddathlu 50 Cymdeithas yr Iaith ac arddangosfeydd masnachol.
Yn ystod y tair blynedd gynta’, meddai John Watkin, roedd cwmnïau teledu’n gwneud defnydd helaeth o’r Pafiliwn ond mae hynny hefyd wedi sychu.