Mae Cymry ymhlith y rhai sydd wedi dod i’r brig yng ngwobrau Into Film eleni.

Mae Gwobrau Into Film, sydd bellach yn eu seithfed flwyddyn, yn dathlu creadigrwydd pobol ifanc ym myd ffilm, gan arddangos a thynnu sylw at gyfoeth doniau creadigol y dyfodol.

Roedd yr holl enwebeion i fod i fynychu’r gwobrau yn yr Odeon, Leicester Square, Llundain, ar Fawrth 18, ond cafodd y seremoni ei gohirio yn sgil pandemig y coronafeirws.

Mae’n ddigwyddiad sy’n rhoi llwyfan i dalent ifanc ar draws y Deyrnas Unedig, gyda chategorïau amrywiol, ac fe ddaeth tair gwobr i Gymru.

Athro’r Flwyddyn

Timm Dadds sydd wedi cipio gwobr Athro’r Flwyddyn.

“Mae’n anrhydedd enfawr fy mod wedi ennill Athro’r Flwyddyn Into Film ac i’m hysgol dderbyn cydnabyddiaeth am roi ffilm wrth galon ein cwricwlwm,” meddai.

“Credaf fod ffilm â rhan hanfodol i’w chwarae wrth wneud ein cwricwlwm yn fwy perthnasol a pharatoi disgyblion ar gyfer y lle gwaith.”

Eden Quine-Taylor, 15, ddaeth i’r brig yn y categori Ffilm Orau 12-15 oed.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill y wobr yma, gan fod hynny’n meddwl fod gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn gweld fy ngwaith, sy’n gyffrous iawn i mi,” meddai.

“Dwi wastad wedi bod yn angerddol iawn am wneud ffilmiau – dwi ddim yn gallu gweld fy hun yn gwneud unrhyw beth arall!”

Wrth drafod ei ffilm, I’m the One, sy’n tynnu sylw at wahaniaeth a goddefgarwch, dywedodd Eden fod “pawb eisiau’r hawl i fyw eu bywydau’n heddychlon a heb farn, ac felly mae angen i ni i gyd ddysgu i fod yn fwy tosturiol a deall ein gilydd yn well”.

Seren y dyfodol

Cafodd Hedydd Ioan o Wynedd ei enwi fel un o ‘Sêr y Dyfodol’.

Partneriaeth swyddogol yw hon rhwng Into Film ac Academi Ffilm BFI, sy’n tynnu sylw at unigolion rhyfeddol sydd eisoes wedi cyflawni pethau anhygoel ym myd ffilm.

Dywedodd Non Stevens, pennaeth Into Film Cymru mai “bwriad y Gwobrau yma yw dangos pŵer ffilm ar draws y DU ac i hyrwyddo’r ffyrdd y gall gwaith Into Film gyfrannu at ddatblygiad addysgol, diwylliannol a phersonol plant a phobl ifanc”.

“Rydyn ni wrth ein bodd i weld disgyblion ac athrawon Cymru yn derbyn y nifer uchaf erioed o enwebiadau ers i’r Gwobrau ddechrau saith mlynedd yn ôl ac am longyfarch yr enillwyr yn fawr iawn, sef Eden, Hedydd a Timm,” meddai wedyn.