Nofel Fflur Dafydd wrthi’n cael ei haddasu i ffilm
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Mae Aberystwyth a’r cyffiniau wedi dod yn lleoliad cyfarwydd i’r rheiny sydd yn hoff o’u dramâu tywyll a dirgel, gyda llwyddiant cyfres deledu Y Gwyll yn dod a sylw rhyngwladol i ardal Ceredigion.
Nawr mae’r dref hefyd wedi croesawu byd y sgrin fawr, wrth i ffilm Gymraeg Y Llyfrgell gael ei saethu gan ddefnyddio un o adeiladau mwyaf eiconig Aber, y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae’r ffilm yn addasiad o nofel Fflur Dafydd o’r un enw, gyda chast sydd yn cynnwys Ryland Teifi, Catrin Stewart, Dyfan Dwyfor a Sharon Morgan.
Ac fe sleifiodd Golwg360 draw yn ddiweddar i gael sgwrs â dau o’r actorion, Catrin Stewart a Dyfan Dwyfor, am eu rôl nhw, a beth allwn ni ei ddisgwyl o’r ffilm:
Gallwch ddarllen mwy am y ffilm, gan gynnwys cyfweliadau â Fflur Dafydd a’r cyfarwyddwr Euros Lyn, yn y rhifyn diweddaraf o Golwg ac ar Ap Golwg.
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.