Dylan Edwards
Dylan Edwards sydd yn trafod y ffilmiau cyntaf iddo eu gweld yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes …
“Cinema has never truly been able to escape the political sphere”. Pan ddywedodd Paul Risker o’r Quietus hyn yn gynharach eleni, sôn roedd e am ŵyl Kinoteka Gwlad Pwyl, a’r ffordd roedd y casgliad hwnnw o ffilmiau yn bwrw goleuni ar sefyllfa bresennol y wlad honno. Ond mae’r hyn mae’n ei ddweud yn gyffredinol wir – hyd yn oed mewn gŵyl mor fasnachol ac anferth ac amlhaenog â Cannes, sy’n rhedeg eleni o 13 i 24 Mai, mae hyn yr un mor wir.
Mae rhywbeth am y syniad o glwstwr o ffilmiau newydd sbon sydd wedi cael eu curadu gyda’i gilydd a’u meithrin ar gyfer yr un pwrpas, gan rai o artistiaid mwyaf blaenllaw’r ffurf, sy’n ein galluogi i’w darllen fel ffenest i mewn i’n ‘nawr’ –fel cyfanwaith a all rywsut, yn anuniongyrchol ac anfwriadol, ein helpu i ddygymod â’r cwestiwn enfawr hwnnw y mae celf wedi bod yn ei ofyn ers y lluniau cyntaf yn yr ogofâu: ble ydyn ni nawr?
Yn y diwrnodau diwethaf, mae’r ‘sefyllfa’ – ‘ein safle’ – wedi bod ar ein meddyliau i gyd. Mae’r ddinas (Llundain, lle rwy’n fyfyriwr) wedi bod yn llwyd gan ansicrwydd sicrwydd canlyniad yr etholiad, a thensiynau pendant i’w teimlo ymhobman. Wrth i’r newyddion ddod i mewn yn oriau mân fore Gwener roeddwn i tu fas i glwb nos, fy mhen i’n troi, a ‘nghyffro a ‘mrwdfrydedd ynghylch y dyfodol yn chwythu i ffwrdd â gwynt duwch y nos â phob reffreshiad twitter.
Mentro i weld Matteo Garonne
Pum bore’n ddiweddarach a dwi’n hedfan i Cannes, gwledd fwya’r calendr i’r rheiny yn ein plith sydd yn byw a bod drwy gyfrwng y sinema a’r sgyrsiau mae’n eu hysgogi; fel pleser, fel gwaith, ar gyfer ysbrydoliaeth – ond hefyd, a finnau’n methu siglo’r hyn sydd wedi rheoli’r wythnosau diwethaf yn fy meddwl i ac yn ein hymwybyddiaeth fel cenedl ac fel ‘teyrnas’, fel rhyw ffurf ryfedd o loches.
Fy mhrif obaith ar gyfer yr ŵyl, felly, yw rhywbeth – unrhyw beth – fydd yn bwrw goleuni ar yr heddiw; ‘ein heddiw’, ein nawr. Ac mae blynyddoedd o gadw llygad manwl ar yr hyn sy’n digwydd ym myd ffilmiau rhyngwladol wedi dangos i mi fod y rheiny’n gallu ymddangos o unrhyw le; mewn ffordd, mae’n wir am bob ffilm werth ei halen, hyd yn oed os ydi hynny’n anfwriadol.
Fel mae’n digwydd, mae yna wacter gwleidyddol anfoddhaol i’r tair ffilm i mi eu gwylio yn ystod fy oriau cyntaf yn Cannes, er eu bod rhyngddynt yn ymdrin â moesoldeb brenhiniaeth, rolau rhywedd, salwch yn y gweithle, agweddau at yr henoed, a llawer mwy.
Allwn i ddim bod wedi gofyn am ffilm agoriadol fwy addas ar gyfer fy mhrofiad o Cannes na Tale of Tales gan Matteo Garrone (ffilm Saesneg gynta’r Eidalwr), serch ei arwyneboldeb. Mae’r ffilm yn rhywbeth rhwng portmanteau ffantasïol a chomedi ensemble ffarsaidd – yn fy marn i, roedd ei hwyrfrydedd i setlo i fod yn unrhyw beth penodol yn fwy o wendid nag o rinwedd.
Mae’n seiliedig ar ddwsinau o straeon chwedlonol enwog, ac mae gwrachod a’u crochanau, twrnamentau i ennill gwragedd, calonnau bwystfilod fel prydau bwyd, ac efeilliaid albino ag isleisiau homoerotig yn rhannau naturiol o’r bydysawd mae Garrone yn ei greu. Mae’n chwarae fel fersiwn Fellini o bantomeim, neu addasiad lled-arthouse o Shrek.
Ond i mi roedd hi’n rhy ansicr, yn rhy ffals, ac yn rhy hapus i beidio ag ymgymryd ag unrhyw un o’i themâu mewn gwirionedd i fod yn unrhyw beth mwy na ffordd ryfedd, foddhaol o dreulio dwy awr oedd byth yn dod yn unrhyw beth mwy cofiadwy na hynny.
Garrel ddim yn gwefreiddio
Mae Philippe Garrel yn un o gyfarwyddwyr anwylaf cymdeithas beirniaid Ffrainc; gallwch chi ddibynnu ar ei ffilmiau i ymddangos ar restr diwedd-blwyddyn Cahiers yr un mor sicr ag y gallwch chi ddibynnu arno i beidio â chael ei ryddhau o gwbl mewn unrhyw farchnad arall. Gellid disgrifio pob un o’i ffilmiau yn y ddau ddegawd diwethaf fel dramâu du a gwyn, gweddol fyr, am Ffrancwyr cyfoes yn methu ymdopi â’u perthynas â’i gilydd.
Byddwn i’n disgrifio ei ffilm newydd, In the Shadow of Women, sef ffilm agoriadol y Quinzaine eleni, fel un o’i ffilmiau ‘llai’, ond gellid disgrifio pob un o’i ffilmiau felly. Beth sy’n gosod y ffilm hon ar wahân ar y naill law yw perfformiad teimladwy Lena Paugam fel meistres ein prif gymeriad a’r eironi cyson sy’n rhedeg trwy’r ffilm, ac ar y llaw arall yr elfen anghyfforddus o fachismo, fel hen ddyn yn ein cymell gyda winc i weld ei jôcs yn ddigri.
Ai dyma’r flwyddyn y bydd y byd yn dal i fyny o’r diwedd â pha mor amherthnasol at heddiw a diflas yw agweddau hen ffefrynnau fel Garrel at rywedd a’r ffordd mae perthnasau yn gweithio yn y byd modern? Dydy’r Nouvelle Vague ddim mor nouvelle a hynny yn 2015.
Doeddwn i ddim yn casáu’r ffilm hon, ond doedd y ffaith ei bod wedi cael ei rhaglennu ynghyd â ffilm chwe munud wnaeth Garrel yn ystod terfysgoedd Mai ’68 ym Mharis dim ond yn tanlinellu anfodlonrwydd y cyfarwyddwr i symud ymlaen, yn ogystal â dangos, yn baradocsaidd, sut mae ei sinema wedi dod yn gymaint llai cyfoes ac yn fwy hunanfodlon wrth i’w yrfa fynd yn ei blaen.
Ffocws ar y cyfarwyddwyr
Un o fy hoff bethau am Cannes yw’r argraff o fraint eithafol mae’r holl naws yn ei rhoi i’r cyfarwyddwyr – cânt eu clodfori nid fel duwiau, ond ran amlaf fel mwncïod sioe gan y beirniaid, neu fel eirth yn dawnsio i ddiddanu teulu brenhinol (golygfa sy’n uchafbwynt i Tale of Tales, er bod y ffilm honno wedi ei gosod mewn rhyw fyd ffantasi o’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mai Salma Hayek, y frenhines, yw ni’r critics).
Mae’r sgriniau cyn i bob ffilm chwarae yn datgan enw’r cyfarwyddwr yn anferth, gyda’r teitl yn fach oddi tano; mae pawb o’ch cwmpas hefyd yn sôn am y ffilmiau trwy gyfeirio at enwau eu auteurs. “Are you queuing for Garrel?”; “I might be going to Sorrentino but doesn’t it clash with the Gomes?”, ac yn y blaen.
Cael ei gwneud yn fwnci sioe yw’r hyn sydd wedi digwydd, hyd at ryw bwynt, i Naomi Kawase, cyfarwyddwraig Siapaneaidd sy’n bresenoldeb bytholwyrdd ymhob Gŵyl Cannes. Chwalwyd ei ffilm Still the Water gan y beirniaid y llynedd, pan ddangoswyd hi fel rhan o’r brif gystadleuaeth, am ei bod yn wlyb, yn drwm, yn ddibwrpas (fel mae’n digwydd, honno fyddai un o fy newisiadau i am brif wobr y llynedd, ond dyna ni).
Yn rhyfedd, o gysidro’i statws brenhinol bron gyda phenaethiaid yr ŵyl, amgylchedd prysur, wam-bam Cannes yw un o’r llefydd lleia’ delfrydol posib i wylio ffilmiau Kawase, am eu bod nhw mor feddylgar a thrwm o ran steil, mor benodol eu naws heb fod yn flashy – fel rheol mae beirniaid yn disgwyl i ffilm fod naill ai’r ddau neu dim un o’r rhain – weithiau’n sicli-sentimental ond heb fod yn waith hawdd i’r gwyliwr chwaith.
Eleni, felly, fel ymateb i’r atgasedd hwnnw sydd wedi wynebu eu perthynas â Kawase yn ddiweddar, mae’r curadwyr wedi neilltuo’i ffilm ddiweddaraf, An (neu Sweet Red Bean Paste), fel ffilm agoriadol adran fwya’r ŵyl, Un Certain Regard.
(Nodyn neilltuol: mae’n anodd peidio bod yn sinigaidd ynglŷn â’r ffaith bod trefnwyr yr ŵyl, sydd mor enwog o wael am dderbyn beirniadaeth am y diffyg cynrychiolaeth yn eu lein-yps – sgwrs sydd mor hollbresennol ar y Croisette â’r coed palmwydd – wedi rhoi ffilmiau gan fenywod fel ffilmiau agoriadol tair o’u prif adrannau. Mae’n anodd peidio gweld hyn fel llen fwg, i ddargyfeirio’r sgwrs angenrheidiol am gynrychiolaeth yng ngŵyl fwya’r byd i’r naill ochr, gan mai dyma rai o’r unig ffilmiau gan fenywod yn yr ŵyl gyfan.)
Eglur a soffistigedig
Yr hyn dwi’n ei hoffi am Kawase, er gwaetha trademarks ei hestheteg (siots o wynt yn neiliach coed, close-ups o fwyd a phlanhigion), yw bod yna uniongyrchedd i’w naratifau ac elfen ymarferol tu hwnt i’r ffordd mae hi’n adrodd ac yn datblygu’i straeon – ac mae’n bosib mai An yw ei ffilm fwyaf eglur a soffistigedig ei ffurf hyd yma.
Er ‘mod i’n tybio mai dyma fydd yn troi llawer o bobol oddi wrth y ffilm hon, dwi’n hoff hefyd o’r gofal a’r manylder mae hi’n ei roi i broses a chelfyddyd y coginio sydd yn chwarae rhan mor bwysig yn y ffilm.
Mae mwyafrif helaeth y golygfeydd wedi eu gosod mewn siop dorayakis (dau ddarn melys o bestri â phast ffa coch rhyngddynt), gyda’n dau brif gymeriad – y boi fu’n rhedeg y siop ar ben ei hun am flynyddoedd, a’r hen ddynes wahanglwyfus mae’n ei chymryd i mewn wedi iddo flasu ei ‘ân’ arallfydol – yn chwarae yn erbyn ei gilydd.
Mae’n ffilm hynod gynnes, hynod sentimental, ond mae’n gweithio’n galed i daro pob un o bwyntiau’r plot yn llawn arddeliad, ac mae’n adfywiol o syml, heb fyth fod yn arwynebol.
Pa ‘heddiw’ fydd yn fy nisgwyl fory, tybed? Erbyn i mi ddychwelyd i Lundain lwyd ddydd Mercher nesaf, gobeithiaf fedru gweld yr heddiw hwnnw sy’n ein hwynebu ‘nol adre mewn goleuni brafiach; neu o leia’ gyda fy mhen, rywle yn y (tua) pump ar hugain o ffilmiau dwi’n bwriadu’u gwylio’r wythnos hon, wedi ei borthi â chelfyddyd a dychymyg a ffilm ar ei orau.