Bydd Dydd Sant Ffolant yn cael ei ddathlu gan Pontio ym Mangor gyda dangosiad ffilm ramantus sy’n wahanol i’r arfer – Heartbeats gan y cyfarwyddwr ffilm ddwyieithog o Ganada, Xavier Dolan.

Dim ond 20 mlwydd oed oedd Xavier Dolan pan gyfarwyddodd y ffilm ac mae hi’n dilyn dau ffrind, dyn a merch, sydd yn syrthio am yr un dyn. Yn anochel, mae eu cyfeillgarwch yn dioddef hefyd.

Cafodd y ffilm gymeradwyaeth frwd pan gafodd ei dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes yn 2010.

Bydd y ffilm yn cael ei ddangos ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor nos yfory am 7:30.