Mirain Jones
Mirain Jones sydd ar ganol gwylio cyfres ddrama ddiweddaraf BBC One …
Un o’r dramâu teledu mwyaf trawiadol i mi ei wylio llynedd oedd Broadchurch ar ITV, drama ddirgel oedd yn ffocysu ar lofruddiaeth bachgen un ar ddeg mlwydd oed.
Roedd y tensiwn cynyddol dros gyfnod o wyth pennod wedi hoelio fy sylw wrth i gyfrinachau gael eu datgelu fesul un.
Tebyg oedd yr argraff a gefais wrth wylio drama ddirgel ddiweddaraf y BBC, The Missing, cyfres sydd ar hyn o bryd hanner ffordd drwy gael ei darlledu.
Diflaniad bachgen
Mae’r ddrama hon wedi’i selio ar ddigwyddiad trychinebus, sef diflaniad bachgen pum mlwydd oed sydd ar ei wyliau yn Ffrainc gyda’i rieni.
Gwelwn effaith y golled ar ei rieni a gwelwn hefyd yr heddlu wrth eu gwaith yn ceisio darganfod y bachgen.
Mae’r ddrama yn dilyn yr helyntion a ddilynodd ddiflaniad y bachgen ond hefyd mae’n dod yn ôl i’r presennol, wyth mlynedd yn ddiweddarach, a dilyn y tad yn dychwelyd i Ffrainc i geisio ailddechrau’r ymchwiliad heddlu.
Wrth i’r ddrama bendilio rhwng y ddau gyfnod rydym yn dod i adnabod nifer o gymeriadau gwahanol megis gwerthwr tai, newyddiadurwr a chyn-droseddwr.
Yn y bennod gyntaf mae’r cymeriadau’n ymddangos yn amherthnasol, ond wrth i’r ddrama ddatblygu gwelwn gysylltiadau’n cael eu gwneud rhyngddynt hwy a’r ymchwiliad.
Yn debyg i Broadchurch mae’r ddrama’n symud y ffocws o un cymeriad i’r llall gan wneud i ni amau pawb yn eu tro i fod yn rhan o ddiflaniad y bachgen.
Nesbitt yn serennu
Yr actor sy’n serennu fwyaf yn y ddrama i mi yw James Nesbitt, sy’n chwarae tad y mab diflanedig.
Mae’n actor adnabyddus ym Mhrydain ac wedi actio mewn ffilmiau megis Bloody Sunday ac ennill amrywiaeth o wobrau am ei waith ar hyd y blynyddoedd.
Mae ei berfformiad yn The Missing yn afaelgar tu hwnt wrth i ni weld y tad sy’n galaru am golled ei fab ac sy’n benderfynol i barhau i chwilio amdano.
Wrth i’r ddrama fynd yn ei blaen, dw i’n edrych ymlaen at weld pa gymeriad fydd o dan y chwyddwydr nesaf.
Er bod rhannau o’r ddrama’n araf o bryd i’w gilydd heb lawer yn digwydd, mae bob pennod yn gorffen ar uchafbwynt dramatig sy’n achosi llawer o gwestiynu ac yn fy nghadw ar bigau’r drain.
Mae sawl cyfrinach eto i’w datgelu, felly yn y cyfamser byddai’n dal i geisio dyfalu beth sydd wedi digwydd i’r bachgen a phwy sydd wrth wraidd y diflaniad.
Marc – 8/10