Dylan Edwards
Dylan Edwards sydd bwrw golwg dros arlwy’r ŵyl, fydd yn rhedeg y 8-19 Hydref

Mae’r hydref, i cinephile ifanc sy’n astudio yn Llundain, yn golygu dau beth – gorfod gwibio heibio cannoedd o ddieithriaid wedi eu gwisgo fel cymeriadau mewn ffilm Whit Stillman ar hyd y Southbank i ddarlithoedd bob bore, a dyfodiad ‘tymor’ y gwyliau ffilmiau rhyngwladol mwyaf, ar ôl i Toronto a Fenis ddod i ben ym mis Medi.

Mae Gŵyl Ffilmiau Llundain y BFI wedi tyfu’n sylweddol o ran maint a phroffil yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers ychwanegu elfen o gystadleuaeth, ond mae ei hunaniaeth yn dal i fod â phwyslais cryf ar ddangosiadau i’r cyhoedd, yn enwedig o gymharu â’r prif wyliau eraill.

Mae darparu’r casgliad o ffilmiau mewn categorïau fel ‘Love’, ‘Laugh’, ‘Debate’ ac ‘Experimenta’ yn cyfrannu at yr elfen user-friendly yma.

Does gan Lundain ddim o’r prestige sydd gan wyliau tebyg fel y Viennale – yr olaf o wyliau mawr yr hydref, sy’n cael ei gweld fel baromedr pendant o ansawdd ffilmiau gwyliau’r flwyddyn – ond mae’r detholiad eleni yn cynnwys trysorau diderfyn, gan gynnwys llawer o ffilmiau dwi wedi bod yn ddigon lwcus i fedru eu gwylio yn barod.

White Bird in a Blizzard

Mae nifer o ffilmiau a gafodd eu dangos yn Sundance, prif ŵyl ffilmiau annibynnol Gogledd America a ddigwyddodd ym mis Ionawr, yn cael eu dangosiadau am y tro cyntaf yr ochr hon i’r Iwerydd, gan gynnwys White Bird in a Blizzard.

Dyma ffilm newydd Gregg Araki, un o anarchwyr sin ffilmiau annibynnol y 90au, lle mae ei lais gweledol cryf yn cael ei feddalu rhywfaint; ond mae hyn yn cyfrannu at dywyllwch a radicaliaeth y ffilm, sy’n olwg hunllefus tu ôl i len teulu Americanaidd ‘perffaith’ yn yr wythdegau, ar ffurf teen movie tywyll.

Efallai nad yw hyn yn swnio fel y cysyniad mwyaf gwreiddiol, ond mae yna delynegrwydd i’r ffilm sy’n creu harmoni diddorol iawn gyda steil bryfoclyd a synhwyrus Araki.

Mae perfformiad Eva Green (Bond-girl gyntaf Daniel Craig, sy’n haeddu gyrfa llawer mwy blaenllaw) fel mam y prif gymeriad sy’n diflannu yng ngolygfa gynta’r ffilm wedi cyfnewidiad rhyfedd yn ei hymddygiad, yn ansefydlog ac yn wefreiddiol, ac yn rhoi gravitas arbennig i ffilm sydd fymryn yn artiffisial fel arall.

Pigion y flwyddyn …

O blith ffilmiau’r ŵyl dwi wedi eu gweld yn barod, mae nifer o’r goreuon, fel y byddech yn disgwyl, yn dod o ŵyl Cannes (fy hoff ffilm o 2014 o hyd yw Le Meraviglie, gan Alice Rohrwacher, ond dw i wedi sôn am honno mewn blog blaenorol ar golwg360 yn barod, ac am y ffilmiau eraill y cefais i gyfle i’w gwylio ar fy nhrip i’r Côte d’Azur ym mis Mai).

O’r rhai i mi eu gwylio ers hynny, yr orau yw Still the Water, ffilm Siapaneaidd yn adran ‘Love’ yr ŵyl gan Naomi Kawase, sy’n un o leisiau cryfaf a mwyaf dadleuol byd sinema’r ddau ddegawd diwethaf.

Dyw ei steil hynod farddonol ac enigmatig ddim at ddant pawb yn sicr, ond i mi, mae’r ffilm hon yn un o’i gweithiau mwyaf pwerus; sinema sydd yn holi, ac yn erfyn arnoch i adael iddi socian drosoch.

Ffilm arall a ddangoswyd yn Cannes (er nad yn y brif gystadleuaeth) yw The Kindergarten Teacher sy’n rhan  o’r adran ‘Dare’, ffilm dyner a theimladwy iawn o Israel, er ei bod hi’n gorymestyn fwyfwy wrth iddi fynd yn ei blaen.

Serch hynny, mae ei thriniaeth ddiffwdan o blot hynod fachog – athrawes yn sylwi ar ddawn farddonol ysgytwol ac anesboniadwy bachgen pum mlwydd oed yn ei dosbarth – yn haeddu cynulleidfa ryngwladol lawer mwy eang nag mae’n debygol o’i chael.

… ond rhai’n siomi

Mae natur yr ŵyl yn sicrhau, felly, fod yna rywbeth arbennig am bob un o’r 248 ffilm y mae’n eu dangos, ond mae sawl ffilm y cefais y cyfle i’w gweld yn barod yn bell o fod yn gampwaith, er nad oes yr un ohonynt (hyd yn hyn!) yn agos at fod yn drychineb.

Mae Princess of France, ffilm o hyd canolig o’r Ariannin gan Matias Piñeiro a fydd yn cael ei dangos yn adran ‘Dare’ yr ŵyl, yn ddilyniant llac i ffilmiau diweddara’r cyfarwyddwr.

Mae’n llwyddo i deimlo fel dwy ffilm ar yr un pryd, yn bos ac yn gomedi ysgafn, sy’n defnyddio un o gomedïau Shakespeare fel dyfais blot ac fel cefndir thematig (Love’s Labours Lost sy’n cael y driniaeth anarferol y tro yma).

Mae Piñeiro’n un o gyfarwyddwyr mwyaf chwareus sinema ryngwladol heddiw, ond ychydig oedd yna i ddal gafael arno i mi yn hon, er ei ddawn amlwg i saernïo plotiau cymhleth sy’n teimlo’n ysgafn-ddoniol ac yn heriol-academaidd ar yr un pryd.

Mae’n falans y byddwn i wrth fy modd yn gweld mwy ohono; trueni, felly, na allai fod wedi chwistrellu ychydig mwy o sbarc i mewn i’w gymeriadau a’u sgyrsiau ailadroddus, hirwyntog.

Ffilm lai disglair fyth, sydd hefyd yn ymddangos yn adran ‘Dare’ yr ŵyl (am resymau cwbl ddirgel i mi), yw La Sapienza, ffilm amlieithog gan y Ffrancwr-Americanwr Eugène Green sy’n cyrraedd Llundain â geirda gan raglenwyr gwyliau clodfawr Locarno, Toronto, Vancouver ac Efrog Newydd.

I mi, mae arddull neilltuol Green (cymeriadau’n siarad yn syth i lygad camerastatig, deialog fwriadol orlenyddol, set-ups cwbl artiffisial) yn teimlo fel cymysgedd anniddorol o auteurs mwy soffistigedig a mwy gwreiddiol.

Dyma ddrama ddomestig faith sy’n addo cynnig archwiliad newydd o ffiniau diwylliannol, ac o le celf yn y byd modern, ond sy’n gwingo rhag ymhelaethu ar unrhyw un o’i syniadau.

Cumberbatch, Tatum a Carrell

Serch hynny, mae’r ŵyl ar y cyfan yn argoeli i fod yn un amrywiol ac arbennig, a dwi’n methu aros i fod yn ei chanol. Mae safle’r ŵyl reit ar ddechrau tymor yr Oscars yn un o’i hatyniadau cryfaf i lawer. Bydd llawer o si a chyffro eleni am The Imitation Game, ffilm agoriadol yr ŵyl, gyda Benedict Cumberbatch yn ffefryn cynnar am wobrau mawr ers gŵyl Toronto.

Mae Foxcatcher sydd wedi treulio’r flwyddyn yn teithio o un ŵyl fawreddog i’r llall, gyda Steve Carell a Channing Tatum mewn rhannau go wahanol i’w personas poblogaidd arferol.

Ac mae Mr Turner, ffilm ddiweddaraf Mike Leigh, gyda Timothy Spall yn chwarae rhan y peintiwr, yn argoeli’n brofiad gweledol cofiadwy os dim byd arall.

Dwi’n siŵr y bydd y ffilmiau yma a llawer mwy yn cynnig digonedd o ddeunydd trafod i gynulleidfaoedd a chyhoeddiadau Llundain dros y deuddeg diwrnod nesaf, ond dim ond un peth sy’n sicr – fydd y torfeydd bob naw-y-bore ar fy ffordd i fy narlithoedd heibio’r BFI Southbank ddim yn mynd yn llai prysur am sbel eto. Dwi’n siŵr wna i oroesi.