Nev, Behnaz, Sian a John gyda Mel Thomas o Hafan, Pwllheli
Casia William sy’n dod â’r diweddaraf o ddiwrnod tri y tu ôl i’r llen yn Nant Gwrtheyrn …

Cyn y wers foreol mae Behnaz a H wedi bod ar y traeth yn gwneud tabata. Na, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd hynny chwaith.

Math o ymarfer corff, mae’n debyg. Felly ymarfer eu cyrff ac nid eu Cymraeg, ond chwarae teg, roedd y ddau wedi codi am chwech i wneud hynny – dyna beth yw ymroddiad.

I have to, I’m eating so much!” oedd geiriau Behnaz. Dwi’n siŵr mod i wedi sôn bod y Nant yn flasus, do?

Yna, wedi gwers gyda Ioan mae’r wyth yn rhannu’n ddau dîm ac yn mynd i wneud ei gweithgareddau, yn y glaw. Yndi, mae hi’n stido bwrw ar y pwynt yma, ond mae criw cynhyrchu Cariad@Iaith yn drefnus a dweud y lleiaf, ac mae ‘BAC YP PLAN!’ yn barod ar amrantiad pan ddaw’r cymylau duon.

Gweithgareddau gwallgof ynteu driciau clyfar?

Er bod y gweithgareddau hyn yn gwneud ‘teli da’, ac yn aml iawn yn ddoniol, maen nhw – cofiwch chi – yn rhan o gynllun mawr dadawgrymeg. Wrth wneud y gweithgareddau amrywiol mae’r eirfa newydd yn suddo mewn i’w hymenyddiau megis dŵr i sbwng a hynny wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar wneud rhywbeth arall.

Aeth un criw i Bwllheli i ddysgu sut i drin a pharatoi crancod gyda Mel Thomas o Hafan, Pwllheli, ac arhosodd gweddill y criw yn y Nant i groesawu criw Merched y Wawr Llanbrynmair.

O blith Neville, John, Siân a Behnaz, pwy dybiech chi oedd yn arfer gweithio mewn siop cigydd? Wel, gwyliwch heno i gael yr ateb.

Bydd sgiliau hogi cyllell yr unigolyn dan sylw yn datgelu’r cyfan. A pha un sy’n cyhoeddi bod ganddi/o alergedd i bysgod, tra’n sniffio bysedd arogl cranc?

Cyffeth? Cyleff? Llyfell?

Erbyn diwedd y bore mae Siân Reeves wedi trio dweud cyllell bum deg o weithiau, ac mae Behnaz wedi llwyddo i berffeithio ei hynganiad o’r gair yn berffaith. A dim ond un person sy’n cranci ar y ffordd adref.

Nôl yn y Nant, Merched y Wawr Llanbrynmair fu’n ffodus o gael Jenna, H, Sam a Suzanne yn gweini arnyn nhw bore ‘ma. Roedd yr hen H ar ei orau. Ella mai’r tabata ydi’r gyfrinach.

Plesio Mercher y Wawr

They loved me. Older ladies always love the gays. Like Dale Winton. They love him too,” meddai wrth weddill y criw. Efallai bod y ffaith ei fod wedi galw un o’r merched yn flasus wedi drysu pethau. Trio dweud bod ei chinio hi’n mynd i fod yn flasus oedd o, mae’n debyg.

Ta waeth, daw gwers y prynhawn ac mae pawb wedi ymlâdd, ond mae Nia P yn llwyddo i’w cael nhw i ganu, neidio, dawnsio, ac yn bwysicach oll, cofio geiriau Cymraeg.

Mae’n amser egwyl rŵan cyn i Gwyneth Glyn ddod i ddiddanu pawb heno, ac mae’r wyth yn barod am napan fach wedi diwrnod arall llawn dop o ddysgu Cymraeg.

Gwyliwch Cariad@Iaith:Love4Language heno ar S4C, yn dechrau am 8.25pm ac yn parhau am 9.30pm ar ôl y Newyddion.

Gallwch hefyd ddarllen blog Casia William yma o ddeuddydd cyntaf y criw.