Y pedwar fu'n byrddio padl
Casia Wiliam sy’n rhannu’r hanes dyddiol o du ôl y camerâu …
Mae’r gyfres Cariad@Iaith:Love4Language nôl ar ein sgriniau teledu ar S4C, gyda dwy raglen yr wythnos diwethaf yn cyflwyno’r selebs diweddaraf i gymryd rhan.
Cafodd gwylwyr y cip cyntaf ar yr wyth sydd wedi bod yn treulio wythnos yn Nant Gwrtheyrn yn dysgu Cymraeg yn y rhaglenni nos Fercher a nos Wener, sydd nawr ar S4/Clic.
Ymysg y wynebau adnabyddus mae’r gyflwynwraig tywydd Behnaz Akhgar, cyn-olwr Cymru Neville Southall a Ian ‘H’ Watkins o fand Steps.
Yn ymuno â nhw mae’r actorion Suzanne Packer, Sian Reeves a John Owen-Jones, a sêr o raglenni realiti The Valleys a Big Brother, Jenna Jonathan a Sam Evans.
Bydd S4C yn dod ag uchafbwyntiau o gyfnod y criw yn Nant Gwrtheyrn bob noson yr wythnos hon, ac yn y cyfamser Casia William sydd yn rhannu’r hanes o du ôl i’r camera o’r ddau ddiwrnod cyntaf.
Diwrnod Un
Wel dyma ni, y diwrnod cyntaf. Mae’r haul yn disgleirio ac mae Nant Gwrtheyrn ar ei orau. Mae geifr gwyllt ar y bryniau, tiwtoriaid eiddgar yn yr ystafell ddosbarth a bythynnod bach twt yn aros am eu gwestai enwog.
Mae’r criw yn barod, mae staff y Nant yn barod, ac mae’r camerâu wedi eu gosod yn barod i ffilmio. Yr unig beth sydd ar goll ydi’r selebs.
Lle maen nhw? Ydyn nhw wedi cael traed oer tybed? Mae yna aelod o’r criw yn sefyllian o gwmpas y maes parcio yn edrych ar ei oriawr.
Big Nev
A, ar y gair! Dyma Neville Southall, neu Big Nev i chi a fi, yn cyrraedd y Nant. Y cyntaf o’r wyth. Mae’n parcio cyn camu allan yn ei dracwisg Everton.
Dwi’n mynd ato i ddweud helo ac ym mhen hanner awr rydym wedi trafod popeth dan haul, o blant drwg sy’n rhegi ar eu mamau (erbyn hyn mae’n gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig) i gyflogau pêl-droedwyr (tydi newyddiadurwyr ddim yn cysidro bod pêl-droedwyr angen rhoi arian i’r neilltu ar gyfer eu pensiwn hefyd). Clywch clywch.
Mae’n siarad yn ddi-baid. Dwi’n amau fod o’n nerfus. Dwi’n cymryd arnaf fy mod i’n medru trafod pêl-droed. Mae Nev yn cymryd arno fod o ddim yn nerfus. Pawb yn hapus.
Munud nesaf daw H i’r golwg. ‘Hi everyone!’.
‘Gosh, I was hoping for some peace and quiet’, meddai Nev wrtha i efo gwen ddireidus, cyn codi i fynd i ddweud helo.
O fewn yr awr mae’r chwech arall wedi cyrraedd: y canwr enwog John Owen-Jones, y cyflwynydd tywydd Behnaz Akhgar, yr actores Suzanne Packer, seren cyfres The Valley Jenna Jonathan, enillydd Big Brother 2013 Sam Evans, a’r actores Siân Reeves.
Mae hi fel diwrnod cynta’r ysgol yma, mae pawb yn gwenu gormod ac yn awyddus i ddechrau arni. Ar ôl cinio bach blasus mae’r criw yn dilyn Nia ac Ioan am y dosbarth fel petai nhw’n ddau bibydd brith.
Dadawgrymeg – you what?!
Ar ôl i bawb setlo yn eu crysau-t Cariad@Iaith mae Nia ac Ioan yn mynd ati i esbonio’r dull dysgu sydd ar waith – dadawgrymeg, neu desuggestopedia yn Saesneg. Dyma ddull a gafodd ei greu gan seicotherapydd o’r enw Dr Georgi Lozanov ym Mwlgaria.
“Mae’n dysgu iaith i chi yn yr un modd ac mae plant yn dysgu iaith, yn caniatáu i chi amsugno’r eirfa newydd fel sbwng yn lle trio dysgu yn strwythurol,” meddai Nia yn Gymraeg wrth wyth wyneb di-glem. Mae hon am fod yn wythnos ddiddorol.
Mae gweithgaredd dirgel wedi ei drefnu ar gyfer y prynhawn hefyd, ac mae Jenna wedi dweud “Whatever it is I am NOT getting my hair wet” bedair gwaith yn barod. Hmmm …
Diwrnod Dau
Yn ôl yr arfer mae’r criw yn cael eu deffro ben bore gan lais melfedaidd Aled Sam, ac yn llowcio brecwast sydyn cyn ymlwybro am y wers gyntaf.
Mae’n amser dod i ddysgu stori’r wythnos ac wrth wneud hynny ddysgu cant a mil o eiriau newydd – i fod. Dwi’n eithaf siŵr bod Jenna wedi disgyn i gysgu ar un pwynt, ond dyna sy’n digwydd pan ‘da chi’n gofyn i’ch disgyblion orwedd ar y llawr a chau eu llygaid, ynte Nia Parry.
Yna, mae’n amser gweithgaredd. Tra bod un criw yn mynd i roi tro ar fyrddio padl (paddle boarding) ym Mharc Glasfryn, mae’r lleill yn mynd i weld sut mae Cwrw Llŷn yn cael ei fragu yn Nefyn.
Bragu geirfa
Suzanne, Siân, Sam a John Owen-Jones sy’n mynd i flasu Brenin Enlli, Seithennyn, y Cochyn a’r Brawd Houdini.
“It was great fun,” meddai John Owen-Jones, seren y sioeau cerdd, sydd bellach yn lledorwedd ar soffa ledr yn edrych wedi ymlâdd. “I think I drank about a pint and a half before half eleven! And I don’t normally drink beer, I’m more of a whisky and red wine man, but it was nice. It’s going to rival Felin Foel for me now.”
Ond, yn bwysicach, sut flas mae’r canwr yn cael ar y dysgu tybed?
“Well, so far I feel like I’m learning one word a day. Yesterday’s word was mwd, and today’s was cwrw. So I have to take their word for it that this ‘absorbing’ thing is working.”
Ac os byddai rhaid dewis un gair ar gyfer y criw arall fuodd yn ceisio byrddio padl bore yma, yna trochi fyddai hwnnw.
Chwarae teg, mae pawb yn mynd amdani, a choeliwch fi mi gewch chi fodd i fyw wrth weld ambell un yn tywallt ei hun mewn i’w siwtiau dŵr, heb enwi neb wrth gwrs.
Galifantio tua Glasfryn
Felly ia, Neville, Jenna, Behnaz a H aeth i Barc Glasfryn am antur. Sut hwyl gawson nhw tybed? Oedd H yn cymryd pethau un cam ar y tro? Fydd Nev yn llwyddo i ddal ei hun ar y bwrdd?
Ar ôl i bawb sychu dwi’n dilyn y criw fyny i’r ystafell ddosbarth ac yn clywed Behnaz, neu Beni fel mae pawb yn ei galw hi, yn dweud, “I’m surprising myself on a daily basis.” A dyna yw’r teimlad cyffredinol, mae pawb yn synnu eu hunain bob diwrnod.
Yn y dosbarth mae’r wers yn gwibio dan ofal Ioan, ond mae’n rhaid stopio bob hyn a hyn ar gyfer cwestiynau di-baid John Owen-Jones. “Why is that one pronounced different to that one? Why don’t we say ‘rh’ there?”
Mae gan y gŵr o Dreforys ateb i bob cwestiwn, a wyddoch chi be, dwi wedi dysgu ambell i beth hefyd. Jiw jiw.
Gwyliwch helyntion deuddydd cynta’r criw ar Cariad@Iaith:Love4Language heno ar S4C, yn dechrau am 8.25pm ac yn parhau am 9.30pm ar ôl y Newyddion.