Daniel Johnson
Daniel Johnson sy’n rhoi’i farn ar y ddrama wrth iddi gyrraedd hanner ffordd …
Ers amryw o nosweithiau Sul bellach mae sioe ddirgel newydd S4C, 35 Diwrnod, wedi bod ar ein sgrin. Cafodd y sioe ei farchnata’n eitha’ trwm, yn enwedig dros y rhyngrwyd, ac roedd hi’n amlwg fod gan y sianel obeithion uchel am y sioe ddirgel cynta’ ers campwaith Y Gwyll.
Mae’r pedair pennod gyntaf allan o wyth wedi bod ar y teledu, a tra fy mod eisiau gweld mwy, mae’r rhaglen yn brin o’r ansawdd roedd Y Gwyll yn llawn ohoni.
Rhaglen araf sydd yn gadael i’r gwylwyr wneud eu meddyliau eu hunain fyny ‘di hon.
Fformat cŵl
Y prif beth sy’n cadw fy llygaid ar y sgrin ydy’r stori, a’r ffordd mae’r fformat yn cael ei glymu o’i gwmpas. Mae siot gyntaf y gyfres yn dangos corff farw Jan Richards ar ben staer, cyn symud nôl i 35 diwrnod cyn y llofruddiaeth, a gadael i’r gwylwyr ceisio dod o hyd i’r llofrudd.
Mae’r fformat yn un cŵl dydw i heb di ei weld yn aml o’r blaen, ac yn rhoi’r sylw ar y cymeriadau’n syth.
Mae’r cymeriadau i gyd yn byw yn yr un stad o dai, ac mae gan bob un ohonynt gyfrinachau maen nhw eisiau cadw tu ôl i ddrysau caeedig. Beth sy’n braf am y cymeriadau yma ydy eu bod nhw’n wahanol i’r rhai ‘da ni fel arfer yn gweld mewn rhaglenni teledu.
Mae’n brin gweld dyn sydd yn dioddef o broblemau meddyliol, ac yn brinnach byth gweld un sydd yn drawsrywiol, ar y teledu. Ond chwarae teg i’r awduron Siwan Jones a William Owen Roberts, maen nhw’n dod drosodd fel cymeriadau diddorol.
Gemau Gravelle
O’r actorion sydd yn chwarae’r cymeriadau yma, yr un gorau o bell ffordd ydy’r un sy’n cael ei bortreadu gan yr anhygoel Matthew Gravelle, sydd yn chwarae Patricia’r dyn trawsrywiol.
Mae gweld Patricia yn chwarae gemau meddyliol hefo Tony (Rhys ap William) yn wych, ac yn rhoi bach o hiwmor i sioe dywyll fel arall. Rhaid rhoi sylw arbennig i Eiry James hefyd, sydd yn rhoi portread credadwy fel Caroline James – o hyd yn breuddwydio am fywyd gwell, ond heb wneud dim amdano.
Mae’n dda cael cymeriadau diddorol, ond mae’n rhaid rhoi storïau diddorol iddynt er mwyn gweld eu doniau actio yn cael ei defnyddio.
Hyd yn hyn, dw i ‘di darganfod bod rhai o’r straeon yn gweithio’n well nac eraill. Yr un mwyaf diddorol ar y funud ydy un Gruff Morris, sydd yn cael ei chwarae’n graff gan Wyn Bowen Harries.
Mae’r stori yn troi o gwmpas helyntion Gruff hefo e-byst, ond nai’m sbwylio’r stori rhag ofn nad ydych chi wedi’i weld eto.
Siots brawychus
Lle arall mae’r sioe yn llwyddiannus ydy creu tensiwn. Ar y cyfan, does na’m llawer o ddeialog trwy’r sioe, ond mae llawer yn cael ei ddweud drwy ymddygiad y cymeriadau â’i gilydd.
Mae’r saethiadau llonydd mae’r cyfarwyddwr yn ei ddefnyddio, yn enwedig pan mae’r haul wedi machlud, hefyd yn ychwanegu at y tensiwn.
Unwaith mae’n nosi mae’r sioe yn dod yn fwy brawychus o lawer, hefo pob sŵn yn rhoi’r gwylwyr ar bigau’r drain, a chysgodion yn symud ar draws y stad.
I grynhoi, mae 35 Diwrnod yn llwyddiannus yn beth mae o’n ceisio ei wneud. Mae o’n ychwanegiad tywyll, dirgel i S4C ac yn siŵr o gadw diddordeb gwylwyr.
Ond er hyn, dydy o ddim cweit yn cyrraedd ansawdd Y Gwyll.
Marc: 7/10
Gallwch ddilyn Daniel ar Twitter ar @daniel_steffan.