Matt Smith - y Dr gwrywaidd diweddaraf
Mae’r Fonesig Helen Mirren yn credu y dylai menyw chwarae rhan y Doctor pan wneith Matt Smith orffen ei amser fel prif gymeriad y rhaglen ffuglen wyddonol, Doctor Who.
Mae’r bwci wedi rhoi ods o 25-1 ar Mirren i chwarae’r rôl pan fydd Matt Smith yn rhoi’r gorau iddi.
Ond wfftio’r syniad wnaeth Mirren gan ddweud “os gwelwch yn dda, bydden i’n rhoi ods llawer hirach ar hynna.”
Er hyn, cred Mirren ei bod hi’n hen bryd i fenyw chwarae rôl y doctor.
“Rwy’n credu ei bod hi’n bryd cael menyw fel Doctor Who. Rwy’n cael llond bol o weld y dyn yna gyda’i gyfaill sy’n ferch. Gallwn enwi o leiaf 10 actores Brydeinig wych a fyddai’n gallu chwarae’r rôl.”
Daw hyn ar ôl i gyfaill presennol y Doctor, Jenna-Lousie Coleman ddweud nad oes rheswm pam na all y Doctor nesa fod yn fenyw.
“Dwi ddim yn gwrthwynebu’r syniad. Mae’n ymwneud â syniadau stori a beth sy’n gweithio” meddai Coleman.