Clawr Ffydd Gobaith Cariad
“Ddwedes i bopeth o’dd ‘da fi i’w ddweud”, canodd Fflur Dafydd yn ‘Yr Ymylon’, y gân olaf ar ei halbwm diwethaf, Byd Bach. Ond wrth imi wrando ar Ffydd Gobaith Cariad – albwm a gafodd ei ryddhau ar ddechrau mis Mehefin eleni – mae’n amlwg bod gan Fflur Dafydd fyrdd o straeon rydym dal heb eu clywed eto.

Mae Fflur Dafydd yn artist cydnabyddedig sy’n creu cerddoriaeth amrywiol iawn – ar yr albwm a recordiodd gyda’i band Y Panics, gallai un glywed elfennau o gabaret, cyn i arddull ei cherddoriaeth fynd yn arafach ac acwstig (ar Coch Am Weddill Fy Oes) cyn datblygu’n fwy bywiog a llawn egni ar ei halbymau diweddarach.

Cysyniad

Ond mae’n ymddangos bod gwell ganddi gyfansoddi’n dawelach eto erbyn hyn, oblegid bod pob cân ar ‘Ffydd Gobaith Cariad’ yn feddylgar, ac yn cyffwrdd â’r teimladau, yn enwedig gyda’i geiriau.

Roedd Byd Bach yn albwm cysyniadol, yn disgrifio’r llefydd yng Nghymru sy’n bwysig i’r gantores. Mae Ffydd Gobaith Cariad hefyd yn albwm cysyniadol mae’n ymddangos, ond y tro hwn mae Fflur Dafydd yn talu teyrnged i bobl a’i dylanwadodd yn ystod ei bywyd, ac, ar yr un pryd, yn cyflwyno gwirioneddau sy’n ddilys i bawb.

Ac felly, rydym yn dysgu am deulu agos Fflur Dafydd: ei merch, ei gŵr a’i thaid a’i nain sydd wedi ei phrifio yn ystod ei bywyd, ond hefyd ei hynafiaid – megis Martha Llwyd, bardd benywaidd o’r 18fed ganrif – a phwysigion Cymru gan gynnwys Ray Gravell, y chwaraewr rygbi, cyflwynydd teledu a bardd.

Benthyg gwaith eraill

Er ei chreadigrwydd fel canwr-gyfansoddwraig, mae Fflur Dafydd yn gwneud defnydd o ffynonellau allanol ar yr albwm yma.

Yn lle gyntaf, mae’r gân deitl yn ailwneuthuriad o Lythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid a chân Danny Whitten o’r teitl I Don’t Want To Talk About It, tra bo ‘Y Porffor Hwn’ yn addasiad o gerdd gan Owen Sheers o’r enw Marking Time.

Beth sy’n ddiddorol ydy’r ffaith bod Mrs. Dafydd wedi penderfynu gwahodd artist arall, Gildas, ati i greu deuawd sydd, mewn gwirionedd wedi creu cân orau’r albwm. Mae Fflur hefyd yn gwneud dynwarediad o gân Huw Chiswell, ‘Frank a Moira’, a hefyd ddefnyddio darnau emyn ei thaid wrth greu ei fersiwn ei hun o gân ‘Elfyn’.

Dehongli

Dwi hefyd yn gwerthfawrogi’r ffaith bod y gantores wedi cyflenwi ei gwrandawyr (a darllenwyr) â fersiynau Saesneg o ganeuon yr albwm, er mwyn galluogi’r rhai hynny sydd heb Gymraeg i ddilyn y cynnwys. Nid cyfieithiadau syml ydynt cofiwch ond, diolch i’w dawn ysgrifennu, ail-ddehongliadau ag ansawdd newydd iddynt.

Yn gyffredinol, o’r hyn y gallaf glywed, mae’n ymddangos bod Fflur Dafydd yn fodlon ar ei byd, gan  fod y caneuon yn optimistig ac yn llawn o’r wên a daeth i’m hwyneb ar ôl i’r trac cyntaf ddechrau, gan aros yn ddisymud ymhell ar ôl i’r olaf orffen.

Rwy wedi bod yn ffan mawr o Fflur Dafydd fel awdures yn ogystal â chantores, a chefais bleser mawr wrth wrando ar yr albwm hwn – yn enwedig yn ystod nosweithiau hir glawog – a dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy o gerddoriaeth fel hyn ganddi.