Ail Symudiad ym 1982
Mae union 100 o ddyddiau i fynd nes bydd gig ‘50’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei gynnal yn y Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid.

I nodi’r achlysur mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi mai un o fandiau enwocaf Ceredigion, Ail Symudiad yw’r band diweddaraf i ymuno â’r 50 o artistiaid fydd yn perfformio.

“Mae Ail Symudiad yn enghraifft berffaith o fand sydd wedi pontio’r degawdau” meddai un o drefnwyr 50, Huw Lewis.

“Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn i’r Gymdeithas dros y blynyddoedd, ac wrth gwrs wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygiad y sin gyda label Fflach.”

Blaenllaw

Ffurfiwyd Ail Symudiad yn wreiddiol gan y brodyr Wyn a Richard Jones o Aberteifi ym 1978.

Ers hynny maen nhw wedi bod yn flaenllaw yn y sin Gymraeg, yn rhannol diolch i’r label recordio a ffurfiwyd gan y brodyr, sef Recordiau Fflach.

Rhyddhawyd record gyntaf y grŵp sef y sengl ‘Whisgi a Soda/Ad Drefnu’ ym 1980, ac fe ymddangosodd eu cynnyrch diweddaraf  ar ffurf yr albwm Rifiera Gymreig yn 2010.

“Does dim amheuaeth y bydd croeso mawr iddyn nhw ar lwyfan 50” ychwanegodd Huw Lewis.

Mae tocynnau’r digwyddiad bellach ar werth o wefan y digwyddiad, ac yn ôl y trefnwyr mae’r ymateb wedi bod yn dda hyd yn hyn.