Mae tapiau casét yn boblogaidd unwaith eto yng ngwledydd Prydain, wrth i’r nifer sy’n cael eu gwerthu godi i’r lefel uchaf mewn dros ddegawd.

Er eu bod nhw yn hen ffasiwn yn dechnolegol, dywed adroddiad gan y BPI fod bron i 35,000 o dapiau wedi eu gwerthu yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod hanner cyntaf 2019.

Mae hyn yn cymharu ag oddeutu 18,000 o dapiau wedi eu gwerthu tuag at yr un amser yn 2018. Ymysg yr artistiaid mwyaf llwyddiannus oedd Billie Eilish sydd wedi gwerthu 4,000 o gopiau o’i halbym gyntaf, When We Fall Asleep, Where Do We Go? Yn dynn ar eu sodlau y mae Catfish and The Bottlemen a’u halbym nhw, The Balance, a werthodd 3,000 o gasetiau; gyda Madame X gan Madonna yn Rhif 3; a Divinely Uninspired To A Hellish Extent gan Lewis Capaldi yn bedwerydd; a Wasteland Baby gan Hozier yn bumed.

Y gwerthwr gorau y llynedd oedd A Brief Enquiry Into Online Relationships gan The 1975’s a werthodd 7,523 copi, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ystod wythnos gyntaf wedi ei chyhoeddi.

Ym 2018 roedd yna gynnydd blwyddyn-ar-ôl-blwyddyn o 125.3% yng ngwerthiant casetiau gan gyrraedd 50,000. Er fod llawer o bobol yn ystyried eu bod yn hen a di-werth, dyma oedd y gwerthiant uchaf o gasetiau yn y DG ers 2004.